Ieithoedd Khoisan
Ieithoedd a siaredir yn bennaf yn ne a dwyrain Affrica yw'r ieithoedd Khoisan. Yn ne Affrica, siaredir yr ieithoedd yma gan y Khoi a'r San, ac yn nwyrain Affrica gan y Sandawe a'r Hadza. Maent yn adnabyddus am y "cliciau", sy'n unigryw i'r ieithoedd yma, seiniau sy'n cael eu cyfleu mewn ysgrifen fel "!".
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | khi ![]() |
![]() |
Credir fod yr ieithoedd yma yn cael eu siarad ar hyd ardal eang o dde a dwyrain Affrica yn y cyfnod cyn ymledaeniad y Bantu, ond erbyn hyn maent wedi eu cyfyngu i anialwch y Kalahari, yn bennaf yn Namibia a Botswana, a rhan o ganolbarth Tanzania. Mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd hyn mewn perygl, a rhai ar fin diflannu. Yr unig iaith gyda nifer sylweddol o siaradwyr yw Nama yn Namibia, gyda tua chwarter miliwn yn ei siarad.
Nid oes cytundeb ymysg ieithyddion a ellir ystyried yr iaithoedd Khoisan yn deulu ieithyddol; cred rhai nad oes perthynas agos rhwng y gwahanol ieithoedd. Gellir eu dosbarthu yn nifer o grwpiaqu:
- Hadza
- Sandawe
- Ieithoedd Khoe, y grŵp mwyaf, yn cynnwys 7 iaith
- Ieithoedd Tuu
- Ieithoedd Juu-ǂHoan