Khoikhoi
(Ailgyfeiriad o Khoi)
Grŵp ethnig yn Namibia a De Affrica yw'r Khoikhoi ("pobl y bobl" neu "y bobl go-iawn"), hefyd y Khoi, neu yn silliafiad yr iaith Khoekhoe/Nama, Khoekhoe. Maent yn rhan o grŵp ethnig y Khoisan, yn perthyn yn agos i'r San. Gelwir hwy weithiau yn Hottentot, ond bellach ystyrir hyn yn sarhaus.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | African people |
Mamiaith | Affricaneg, khoekhoe |
Crefydd | Cristnogaeth |
Gwladwriaeth | Namibia, De Affrica, Botswana, German South-West Africa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dengys archaeoleg fod y Khoikhoi wedi symud i mewn i Dde Affrica o'r gogledd trwy'r hyn sy'n awr yn Botswana. Yn ddiweddarach, gorfodwyd hwy i symud i ardaloedd llai ffrwythlon pan symudodd y bobloedd Bantu tua'r de. Pan gyrhaeddodd yr ymsefydlwyr Ewropeaidd cyntaf yn 1652, roeddynt yn byw yn rhan ddeheuol De Affrica, yn cadw gwartheg. Roedd nifer o grwpiau gwahanol, ond erbyn hyn maent wedi diflannu heblaw am y Nama.