San
Grŵp ethnig yn Namibia, De Affrica, Botswana ac Angola yw'r San. Gelwir hwy weithiau yn Pobl y prysglwyni (Afrikaans: Boesman) neu Basarwa. Maent yn rhan o grŵp ethnig y Khoisan, yn perthyn yn agos i'r Khoikhoi.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Ieithoedd khoisan |
Poblogaeth | 100,000 |
Crefydd | Crefydd draddodiadol affrica, cristnogaeth, siamanaeth |
Rhan o | Khoisan |
Gwladwriaeth | Botswana, Namibia, Angola, De Affrica, Sambia, Simbabwe |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae tua 100,000 ohonynt i gyd, ac maent yn siarad nifer o ieithoedd Khoisan. Hwy yw poblogaeth frodorol wreiddiol anialwch y Kalahari, lle'r oeddynt yn draddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu.