Ieithoedd Tyrcaidd

(Ailgyfeiriad o Ieithoedd Tyrcig)

Teulu ieithyddol sydd yn cynnwys o leiaf 35[1] o ieithoedd yw'r ieithoedd Tyrcaidd neu'r ieithoedd Tyrcig a siaredir gan y bobloedd Dyrcig ar draws Ewrasia, yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, Gorllewin Asia, Gogledd Asia (yn enwedig Siberia), a Dwyrain Asia. Tarddodd yr ieithoedd Tyrcaidd, ar ffurf y broto-Dyrceg, yng ngorllewin Tsieina a Mongolia,[2] a lledaenodd i'r gorllewin, ar draws rhanbarth Tyrcestan a thu hwnt, yn sgil ymfudiadau'r bobloedd Dyrcig yn ystod y mileniwm cyntaf OC.[3] Siaredir iaith Dyrcaidd yn frodorol gan ryw 170 miliwn o bobl, a chan gynnwys siaradwyr ail iaith mae mwy na 200 miliwn o bobl yn medru ieithoedd o'r teulu hwn.[4][5] Tyrceg ydy'r iaith Dyrcaidd a chanddi'r nifer fwyaf o siaradwyr, ac mae ei siaradwyr brodorol yn Anatolia a'r Balcanau yn cyfri am ryw 40% o'r holl siaradwyr Tyrcaidd yn y byd.[3]

Ieithoedd Tyrcaidd
Enghraifft o'r canlynolteulu ieithyddol Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Altaig (dadleuol) Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCommon Turkic, Oghuric Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 300,000,000
  • Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Map o ddosraniad canghennau'r ieithoedd Tyrcaidd yn Ewrasia yn yr 21g:      De-orllewin (Oghuz)      De-ddwyrain (Karluk)      Khalaj (Arghu)      Gogledd-orllewin (Kipchak)      Tsafasieg (Oghur)      Gogledd-ddwyrain (Siberaidd)

    Mae sawl ffordd o ddosbarthu'r ieithoedd Tyrcaidd, a fel rheol fe'i rhennir yn ddau gangen – yr ieithoedd Oghur a'r ieithoedd Tyrcaidd Cyffredin – a chwech neu saith is-gangen. O'r ieithoedd byw, Tsafasieg yw unig aelod y gangen Oghur; mae'r gangen Dyrcaidd Cyffredin yn cynnwys pob iaith Dyrcaidd byw arall, gan gynnwys yr is-ganghennau Oghuz, Kipchak, Karluk, Arghu, a Siberaidd. Nodweddir yr ieithoedd Tyrcaidd gan gytgord llafariaid, cyflyniad, a diffyg cenedl enwau.[3] Rhennir cyd-ddealltwriaeth i raddau helaeth gan ieithoedd yr is-gangen Oghuz, gan gynnwys Tyrceg, Aserbaijaneg, Tyrcmeneg, Qashqai, Gagauz, a Gagauz y Balcanau, a hefyd Tatareg y Crimea, iaith Kipchak sydd wedi ei dylanwadu'n gryf gan dafodieithoedd Oghuz.[6] Rhennir cyd-eglurder i raddau gan ieithoedd yr is-gangen Kipchak, yn enwedig y Gasacheg a'r Girgiseg. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt yn seinegol tra bo'r eirfa a'r ramadeg yn hynod o debyg. Hyd at yr 20g, ysgrifennwyd y Gasacheg a'r Girgiseg drwy gyfrwng y ffurf lenyddol ar Tsagadai.[7] Gellir dadlau bod elfen gref o gontiniwum tafodieithol yn perthyn ar draws y gwahanol ieithoedd Tyrcaidd.

    Dengys yr ieithoedd Tyrcaidd gryn dipyn o debygrwydd i'r ieithoedd Mongolaidd, Twngwsaidd, Coreaidd, a Japonaidd. O'r herwydd, awgrymodd ambell ieithydd eu bod i gyd yn perthyn i'r teulu ieithyddol Altäig, ond bellach gwrthodir y dosbarthiad hwnnw gan ieithyddion hanesyddol, yn enwedig yn y Gorllewin.[8][9] Am gyfnod, tybiwyd i'r ieithoedd Wralaidd berthyn i'r rheiny hefyd yn ôl y ddamcaniaeth Wral-Altäig.[10][11][12] Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i gytuno ar fodolaeth y naill macro-deulu ieithyddol na'r llall, a phriodolir cyd-nodweddion yr ieithoedd hynny i gyswllt iaith cynhanesyddol.

    Dosbarthiad golygu

    • Ieithoedd Oghur
    • Ieithoedd Tyrcaidd Cyffredin
      • Ieithoedd Oghuz (De-orllewin)
        • Salareg
        • Oghuz y Gorllewin
        • Oghuz y Dwyrain
        • Oghuz y De
          • Qashqai
      • Ieithoedd Karluk (De-ddwyrain)
      • Ieithoedd Arghu
        • Khalaj
      • Ieithoedd Kipchak (Gogledd-orllewin)
        • Kipchak–Bwlgar (Wralaidd, Wral-Caspiaidd)
        • Kipchak–Cuman (Ponto-Caspiaidd)
        • Kipchak–Nogai (Aralo-Caspiaidd)
          • Casacheg
          • Karakalpak
          • Tatareg Siberia
          • Nogai
        • Cirgiseg–Kipchak
        • Kipchak y De
          • Fergana Kipchak†
      • Ieithoedd Siberaidd (Gogledd-ddwyrain)
        • Siberaidd Gogleddol
          • Yakut/Sakha
          • Dolgan
        • Siberaidd Deheuol
          • Sayan
          • Yenisei
            • Khakas
            • Fuyü Gïrgïs
            • Shor
            • Wigwreg y Gorllewin
          • Chulym
          • Altäeg
          • Hen Dyrceg
            • Tyrceg Orkhon†
            • Hen Wigwreg†

    Gweler hefyd golygu

    Cyfeiriadau golygu

    1. Dybo A.V. (2007). "ХРОНОЛОГИЯ ТЮРКСКИХ ЯЗЫКОВ И ЛИНГВИСТИЧЕСКИЕ КОНТАКТЫ РАННИХ ТЮРКОВ" [Chronology of Turkish Languages and Linguistic Contacts of Early Turks] (PDF) (yn Rwseg). t. 766. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2005-03-11. Cyrchwyd 2020-04-01.
    2. Janhunen, Juha (2013). "Personal pronouns in Core Altaic". In Martine Irma Robbeets; Hubert Cuyckens (gol.). Shared Grammaticalization: With Special Focus on the Transeurasian Languages. t. 223. ISBN 9789027205995.
    3. 3.0 3.1 3.2 Katzner, Kenneth (March 2002). Languages of the World, Third Edition. Routledge, an imprint of Taylor & Francis Books Ltd. ISBN 978-0-415-25004-7.
    4. Brigitte Moser, Michael Wilhelm Weithmann, Landeskunde Türkei: Geschichte, Gesellschaft und Kultur, Buske Publishing, 2008, p.173
    5. Deutsches Orient-Institut, Orient, Vol. 41, Alfred Röper Publushing, 2000, p.611
    6. "Language Materials Project: Turkish". UCLA International Institute, Center for World Languages. Chwefror 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Hydref 2007. Cyrchwyd 26 Ebrill 2007.
    7. Robert Lindsay. Mutual Intelligibility Among the Turkic Languages. https://www.academia.edu/4068771.
    8. Vovin, Alexander (2005). "The end of the Altaic controversy: In memory of Gerhard Doerfer". Central Asiatic Journal 49 (1): 71–132. JSTOR 41928378.
    9. Georg, Stefan; Michalove, Peter A.; Ramer, Alexis Manaster; Sidwell, Paul J. (1999). "Telling general linguists about Altaic". Journal of Linguistics 35 (1): 65–98. doi:10.1017/S0022226798007312. JSTOR 4176504. https://archive.org/details/sim_journal-of-linguistics_1999-03_35_1/page/65.
    10. Sinor, 1988, p.710
    11. George van DRIEM: Handbuch der Orientalistik. Volume 1 Part 10. BRILL 2001. Page 336
    12. M. A. Castrén, Nordische Reisen und Forschungen. V, St.-Petersburg, 1849