Ifan Jones Evans

Ffarmwr a chyflwynydd radio a theledu Cymraeg

Cyflwynydd radio a theledu, ac amaethyddwr yw Ifan Jones Evans (ganed 23 Chwefror 1985). Mae’n adnabyddus am ei waith ar Cefn Gwlad, Fferm Ffactor a BBC Radio Cymru.

Ifan Jones Evans
Ganwyd23 Chwefror 1985 Edit this on Wikidata
Man preswylPont-rhyd-y-groes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Daw Ifan yn wreiddiol o ardal Pontrhydygroes, Ceredigion. Cafodd ei eni a'i fagu ar fferm teulu ei fam, Ty'n Rhos. Tyfodd i fyny yr ieuengaf o dri feibion Crwys a Delyth Evans. Ei frodyr yw Robyn Lyn a Dewi.

Mae’r teulu i gyd yn ganwyr o safon uchel. Mae Robyn bellach yn ganwr proffesiynol.[1] Mae sawl aelod wedi ymddangos ar Noson Lawen yn canu yn unigol neu mewn grŵp.

Mynychodd ysgol gynradd Ysbyty Ystwyth ac yna Ysgol Uwchradd Tregaron (Ysgol Henry Richard bellach).

Yn dilyn hyn yr oedd yn bwriadu gweithio ar ei fferm deuluol llawn amser. Ond oherwydd pandemig Clwyf y traed a’r genau yn 2001 fe aeth i’r brifysgol yn y gobaith byddai’r sefyllfa wedi gwella wedi hynny. Mynychodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am dair blynedd yn astudio gradd mewn Theatr, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau.[2]

Gyrfa golygu

Cychwynodd ei yrfa fel cynorthwy-ydd cynyrchiadau, yn gweithio gydag enwogion megis Dai Jones ar faes y Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ac mewn rhaglenni teledu yng Nghaerdydd, lle bu’n byw am gyfnod. Yma magodd y profiadau a sgiliau oedd angen ar gyfer symud ymhellach i waith y cyfryngau.

Daeth ei waith teledu cyntaf yn 2007 ar y rhaglen cychgrawn i blant Peirianhygoel ac yna Mosgito.

Aeth yn ei flaen i gyflwyno rhaglenni Rasus a'r Sioe yn flynyddol.

Rhwng 2010 a 2012 bu'n ymddangos ar gyfres o raglenni yn ail greu teithiau hanesyddol gan gychwyn gyda'r Porthmon yn 2010. Roedd y rhaglen yn dilyn Ifan ac Erwyd Howells wrth iddynt ail-greu taith arbennig Y Porthmon Dafydd Isaac – dros 100 milltir o Fachynlleth i Aberhonddu.[3] Bu dilyniant i’r gyfres yn 2011 gyda Y Goets ac yna Y Sipsiwn yn 2012.[4][5]

Ers 2010 mae wedi bod yn gyflwynydd ar BBC Radio Cymru. Rhwng 2010 a 2016 roedd ganddo sioe wythnosol ar C2 cyn symud i'r foreau Sadwrn yn 2016. Ers 2018 mae wedi bod yn cyflwyno Sioe Brynhawn Ifan Jones Evans o brynhawn Lun i Iau. Roedd hyn yn dilyn dewis Andrew 'Tommo' Thomas i sefyll i lawer er mwyn cyflwyno sioe ddyddiol newydd ar Nation Broadcasting.[6]

Rhwng 2012 a 2014, bu’n cyflwyno rhaglen ddawns Tîm Talent. Mae hefyd wedi bod yn gyflwynydd rheolaidd i’r rhaglen adloniant Noson Lawen; yn cyflwyo oleiaf un bennod y flwyddyn. Daeth rhaglen yn edrych yn ôl drwy archif S4C allan yn 2019, o dan y teitl Aur y Noson Lawen, gydag Ifan wrth y llyw.

Mae wedi bod yn gyflwydd ar gyfres Fferm Ffactor ar S4C ers 2014.[7]

Ers 2014, mae wedi bod yn cyflwyno Eisteddfod Flynddol y Ffermwyr Ifanc.

Ers 2018, bu’n cyflwno’r rhaglen adloniant Oci Oci Oci!.

Ers 2019, mae wedi cyflwyno’r rhaglen Y Sioe Fwyd ar S4C. Mae’r rhaglen yn cyfuno coginio, blasu bwyd â sgwrsio. Mae’r cogydd Hywel Griffith yn gyfrifol am greu’r ryseitiau a choginio, ac mae gwesteion arbennig yn blasu’r danteithion, trafod cynhwysion a thorchi llewys yn y gegin.

Yn 2020, cychwynodd ei bodlediad amaethyddol ei hun, yn trafod pob math o brofiadau ffermio a bywyd gwledig. Rhyddhaewyd penodau yn achlysurol.[8]

Yn 2021 daeth un un o brif gyflwynwyr Cefn Gwlad gyda Mari Lovgreen yn dilyn ymddeoliad Dai Jones.[9][10]

Bywyd personol golygu

Mae yn briod â Gwawr Evans (ers 2015) ac mae ganddynt bedwar o blant, Heti, Jos, Defi a Ned.

Ers 2014, mae’n byw yn Ffarm Rhos y Rhiw, sef hen dŷ ei Nain a’i Taid.

Mae’n bêl-droedwr brŵd, ac yn aelod o dîm pêl-droed lleol y Bont, Pontrhydfendigaid.

Er iddo gael yr enw enedigol Ifan Evans, mae’n dewis defnyddio "Ifan Jones Evans", er mwyn osgoi dryswch gyda’r chwaraewr rygbi Cymru o’r un enw.

Yn 2018 cafodd ei ruthro i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth i gael tynnu pendics.[11]

Yn Hydref 2019, rhedodd Ifan Hanner Marathon Caerdydd er mwyn casglu arian ar gyfer achos dda. Roedd hyn yn dilyn y gefngaeth y gafodd gan weithwyr Ysbyty Glangwili ar ôl i’w fab gyntaf gael ei geni 6 wythnos yn gynnar.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Robyn Lyn Evans Tenor". Steven Swales Artist Management. Cyrchwyd 11 Ionawr 2024.
  2. "Ifan Jones Evans 3 Lle". BBC Cymru. Cyrchwyd 11 Ionawr 2024.
  3. "Y Porthmon yn Cyrraedd Pen y Daith". S4C. 11 Ionawr 2024.
  4. "Crwydro ar draws Gogledd Cymru ar y Goets Fawr". S4C. Cyrchwyd 11 Ionawr 2024.
  5. "Dathlu Tymor y Sipsiwn ar S4C". S4C. Cyrchwyd 11 Ionawr 2024.
  6. "Andrew 'Tommo' Thomas yn Gadael y BBC". BBC Cymru. 12 Chwefror 2018.
  7. "Pâr newydd o ddwylo yn gafael ar lyw Fferm Ffactor". S4C. 20 Mawrth 2014.
  8. "Yn y Cab". Twitter. 5 Tachwedd 2020.
  9. "Dai Jones Llanilar yn Ymddeol". Golwg360. 2020.
  10. "Ps & Qs – Ifan Jones Evans". Wales Online. 18 Gorffennaf 2009.
  11. "Eisteddfod yr Urdd: dim Ifan Jones Evans". Golwg360. 2018.
  12. "Ifan Jones Evans". Wici y Cyfryngau Cymraeg. 11 Ionawr 2024.

Dolenni allanol golygu