Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Prif ysbyty ardal Caerfyrddin

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili (Saesneg: Glangwili General Hospital), a elwid gynt yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, yn ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin. Mae'n cael ei reoli gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn derfynnol, Llywodraeth Cymru.

Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Enghraifft o'r canlynolysbyty Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1846, 1847 Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/42915 Edit this on Wikidata
Prif fynedfa Ysbyty Cyffredinol Glangwili, 2019

Hanes golygu

Agorodd yr ysbyty fel Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru ym 1949.[1] Newidiodd ei enw i Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn dilyn pleidlais yn 2010.[2] Roedd yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin hyd nes i'r corff hwnnw ddod i ben a chael ei lyncu i greu Ymddiriedolaeth Hywel Dda.

Datblygiadau golygu

Ym mis Medi 2014, agorwyd uned dialysis arennol newydd sy'n cael ei redeg gan Fresenius Medical Care Renal Services Ltd yn yr ysbyty, gyda chontract i'w rhedeg am o leiaf 7 mlynedd.[3] Fel rhan o ad-drefnu gwasanaethau acíwt yng Nghymru, bydd gwasanaeth pediatrig cleifion mewnol 24/7 yn Glangwili o fis Hydref 2014.[4]

Buddsoddwyd £25m mewn uned famolaeth a genedigaeth newydd yn yr ysbyty [5] wedi i adroddiad yn 2018 ddarganfod nad oedd yr uned ar y pryd "ddim yn ffit i'w bwrpas". Ers y buddsoddiad mae'r ddarpariaet wedi "gwella'n sylweddol".[6]

Yn 2022 lansiwyd Canolfan Ymchwil Glinigol yn yr Ysbyty. Roedd y buddsoddiad o £250,000 wedi arwain at ddatblygu ystafelloedd clinigol pwrpasol i drin a monitro cleifion a labordy amlddefnydd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i alluogi prosesu samplau yn annibynnol o adrannau prysur eraill.[7]

Yn 2022 adroddwyd ar gynlluniau i adeiladu ysbyty fawr newydd yn ardal San Clêr a Arberth erbyn 2029 i wasanaethau gorllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Byddai hyn yn effeithio ar waith Ysbyty Glangwili.[8]

Gwasanaethau eraill golygu

Bu Radio Glangwili yn rhan bwysig o wead yr ysbyty a hefyd Llyfrau Llafar Cymru a ddatblygwyd gyda chydweithrediad gwirfoddolwyr yr orsaf radio i ddatblygu llyfrau llafar i bobl ddall a gwan eu golwg.

Cyfeiriadau golygu

  1. "West Wales General Hospital, Carmarthen". Coflein. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.
  2. "Online vote on West Wales General Hospital name change". BBC. 29 June 2010. Cyrchwyd 11 February 2019.
  3. "Date finally set for opening of Withybush Hospital's multi-million pound dialysis unit". Milford & West Wales Mercury. 8 September 2014. Cyrchwyd 27 September 2014.
  4. "October 20 date set for removal of 24hr paediatrics from Withybush Hospital". Western Telegraph. 20 August 2014. Cyrchwyd 27 September 2014.
  5. "Cyhoeddi £25m i ofal newydd-anedig Ysbyty Glangwili". BBC CymruFyw. 12 Ebrill 2018.
  6. "Glangwili Hospital: Maternity ward significantly improved". BBC Wales News. 2 Mawrth 2023.
  7. "Lansio Canolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty Glangwili". Gwefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda. 17 Mawrth 2022.
  8. "Plans for a new hospital for west Wales by 2029 but what do the proposals mean?". ITV Cymru. 27 Ionawr 2022.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato