Rhaglen adloniant cystadleuol yw Fferm Ffactor a ddarlledir ar S4C. Mae'r gyfres yn dangos 10 ffermwr yn cymryd rhan mewn nifer o dasgau yn y maes amaethyddol, wrth gystadlu am wobr o gerbyd 4x4 newydd. Ar ddiwedd bob rhaglen mae'r beirniaid yn dewis cael gwared un cystadleuydd. Yn ystod y rhaglen byddai'r ffermwyr yn gallu bwrw ei bol yn y 'cab cyffesu', caban tractor lle roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol a chamera.[1]

Fferm Ffactor
Fformat Cyfres adloniant
Cyfarwyddwyd gan Huw Erddyn
Aneurin Thomas
Cyflwynwyd gan Daloni Metcalfe (2009–2013)
Ifan Jones Evans (2014–)
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Nifer cyfresi 11
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Huw Erddyn
Aneurin Thomas
Amser rhedeg 50 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Cwmni Da
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 20 Hydref 2009 – presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Cynhyrchir y gyfres gan Cwmni Da. Seiliwyd y fformat ar y sioe Wyddelig Ffeirm Ffactor a ddarlledwyd ar sianel Wyddeleg TG4 yn Iwerddon. Erbyn hyn mae'r fformat wedi ei werthu yn fyd-eang.[2] Cyflwynydd y pum cyfres gyntaf oedd Daloni Metcalfe gydag Ifan Jones Evans yn cymryd drosodd yn 2014.

Yn 2015 daeth fformat newydd "Brwydr y Ffermwyr" lle byddai timau o dri ffermwr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yn 2016 symudodd y darllediad i nos Sadwrn ac roedd pwyslais ar ffermwyr ifanc. Y wobr tro hon oedd taith i Batagonia.[3]

Cyfres Selebs

golygu

Nid oedd cyfres yn 2017 ond dychwelodd y sioe yn Chwefror 2018 gyda phedwar tîm o 'selebs' lle mae gan y capteiniaid brofiad y ffermio. Y beirniaid y gyfres hon oedd Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor ac Wyn Morgan. Bydd y tîm buddugol yn ennill y teitl a chyfraniad o £3,000 i elusen o'u dewis.[4] Roedd ail gyfres a thrydedd gyfres yn 2019 a 2020.

Tîmau 2018

golygu

Tîmau 2019

golygu

Tîmau 2020

golygu
  • Gwawr Edwards (capten)
  • Dyddgu Hywel (capten)
  • Owain Williams (capten)

Beirniaid

golygu
  • Athro Wynne Jones (2009-2014)
  • Dai Jones (2009-2010)
  • Aled Rees (2011-2014)
  • Richard Tudor (2015-2018)
  • Wyn Morgan (2015-2018)
  • Caryl Gruffydd Roberts (2015-)

Enillwyr

golygu
  • 2009 – Aled Rees
  • 2010 – Teifi Jenkins
  • 2011 – Malcolm Davies
  • 2012 – Dilwyn Owen
  • 2013 – Gwenno Pugh
  • 2014 – Roy Edwards

Brwydr y Ffermwyr

golygu
  • 2015 – Tîm Cyn-gystadleuwyr: Rhodri Jones, Rhys Williams, Heilin Thomas
  • 2016 – Tîm Gelli Aur: Jack Davies, Carys Jones, Aled Davies

Selebs

golygu
  • 2018 - Tîm Gareth Wyn Jones
  • 2019 - Tîm Aeron Pughe
  • 2020 - Tîm

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Dai yn chwilio am ffermwr gorau Cymru. S4C. Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  2. (Saesneg) Irish TV Format ‘Feirm Factor’ Goes Global. iftn.ie (20 Medi 2012). Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  3. (Saesneg) Fferm Ffactor. ukgameshows.com. Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  4.  O’r carped coch i garped gwair - selebs sy’n gobeithio profi eu hunain ar y buarth.. S4C (30 Ionawr 2018).

Dolenni allanol

golygu