Ifor Hael (cylchgrawn)

cyfnodolyn

Roedd y cylchgrawn Ifor Hael[1] yn gylchgrawn cyffredinol misol, Cymraeg ei iaith, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas lesiant yr Iforiaid. Roedd y cylchgrawn yn canolbwyntio ar gyhoeddi erthyglau ar faterion cyfoes, daearyddiaeth, seryddiaeth, yr iaith Gymraeg ac ar ddyletswyddau'r Iforiaid, ynghyd â newyddion cartref a tramor, adolygiadau a barddoniaeth. Cyhoeddwyd y cylchgrawn yng Nghaerfyrddin yn 1850, yn olynydd i'r cylchgrawn Yr Iforydd a gyhoeddwyd gan y Cyfundeb Iforaidd yng Nghaerfyrddin rhwng 1841-1842, ac yn ragflaenydd i'r cylchgrawn Y Gwladgarwr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Gwir Iforiaid yng Nghaerfyrddin ym 1851.

Ifor Hael
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrJosiah Thomas Jones Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1850 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ifor Hael ar wefan Cylchgronau Cymru". Cylchgronau Cymru. Cyrchwyd 26 Medi 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.