Ina Souez
Roedd Ina Souez (3 Mehefin 1903 – 7 Rhagfyr 1992) yn soprano opera a jazz o Unol Daleithiau America a wnaeth ei gyrfa operatig yn y Deyrnas Unedig.[1]
Ina Souez | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mehefin 1903 Windsor |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1992 Santa Monica |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | canwr, cerddor |
Math o lais | soprano |
Ganwyd fel Ina Rains yn Windsor, Colorado, roedd hi o dras cenedl frodorol y Cherokee. Defnyddiodd cyfenw ei nain famol fel enw llwyfan pan ddechreuodd ar ei gyrfa. Astudiodd o dan Florence Hinman yn Denver, ac ym 1931 teithiodd i Ewrop, gan gymryd gwersi pellach gyda Sofia del Campo ym Milan. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel Mimi mewn perfformiad o La bohème yn Ivrea, yr Eidal ym 1928. Cyn bo hir roedd yn canu yn y Teatro Massimo yn Palermo. Ym mis Mai 1929 roedd yn chware rhan Liù yn y Tŷ Opera Brenhinol, Llundain gyferbyn a Eva Turner fel Turandot yn opera Puccini. Er iddi gael derbyniad da iawn, ni chafodd ei hail alw i chwarae rhannau eraill gan y tŷ ar y pryd. Am y degawd nesaf, arhosodd yn Lloegr, gan ddenu sylw Hamish Wilson, a daeth a hi i sylw trefnwyr Gŵyl Glyndebourne.[2]
Ymddangosodd Souez yn Glyndebourne am y tro cyntaf ar ail noson yr ŵyl agoriadol, 29 Mai 1934, yn canu Fiordiligi yn Così fan tutte Mozart.[3] Erbyn hyn roedd yn briod â Sais, a chafodd ei bilio fel cantores o Saesnes. Derbyniwyd ei pherfformiad yn wresog, ac fe wnaeth y Tŷ Opera Brenhinol ymgysylltu â hi yn gyflym ar gyfer eu tymor nesaf. Creodd hyn broblem i Glyndebourne, gan eu bod wedi cymryd yn ganiataol y byddai'n dychwelyd ac felly nid oeddent wedi trafferthu ei llofnodi ar gyfer ŵyl y flwyddyn ganlynol. Llwyddodd i gyflawni'r ddwy rwymedigaeth, ond unwaith eto ni chafodd ei hailgysylltu gan y Tŷ Opera. Canodd Donna yn Don Giovanni i Glyndebourne, ym 1936, ac ymddangosodd yn Stockholm a Den Haag hefyd cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi i'w thŷ yn Llundain cael ei ddifrodi mewn cyrch awyr gan y Luftwaffe. Yn ystod yr amser hwn fe recordiodd Don Giovanni a Così fan tutte, y recordiadau masnachol cyntaf y o'r ddau opera. Ymunodd Souez â Chorfflu Byddin y Merched ar ôl iddi ddychwelyd i'r UD. Ymddangosodd ychydig mwy o weithiau yn Efrog Newydd, ond ymddeolodd o opera i ddod yn gantores jazz ym 1945.[4]
Treuliodd Souez ran nesaf ei gyrfa yn teithio gyda Spike Jones a'i fand jazz. O'r profiad, dywedodd fod Jones "yn cynnig rhywfaint o arian go iawn i mi"; arhosodd gydag ef am fwy na deng mlynedd cyn ymadael i fod yn athrawes llais yn San Francisco a Los Angeles. Treuliodd ychydig flynyddoedd olaf ei bywyd mewn cartref nyrsio yn Santa Monica. Mae hi wedi'i chladdu ym Mynwent Genedlaethol Los Angeles.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Grove Book of Opera Singers, gol. Laura Macy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2008), t.461
- ↑ Obituary: Ina Souez, Independent, 10 Rhagfyr 1992 Archifwyd 2017-09-18 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 7 Gorffennaf 2020
- ↑ Archif Glyndebourne Ina Souez; adalwyd 7 Gorffennaf 2020
- ↑ Los Angeles Times, 9 Rhagfyr 1992 Ina Souez, Opera Star Who Joined Spike Jones, Dies adalwyd 7 Gorffennaf 2020