Inverness
Dinas yn Ucheldiroedd yr Alban yw Inverness (Gaeleg yr Alban: Inbhir Nis;[1][2] Sgoteg: Innerness).[3] Saif lle mae Afon Ness yn llifo i mewn i Foryd Moray. Mae'r boblogaeth yn 66,600, gyda 5.47% ohonynt yn siarad Gaeleg. Dyma yw prif ganolfan poblogaeth ardal Cyngor yr Ucheldir.
Math | dinas, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 47,380 |
Gefeilldref/i | Augsburg, Saint-Valery-en-Caux, Hulluch |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 8 mi² |
Yn ffinio gyda | Munlochy |
Cyfesurynnau | 57.4839°N 4.2258°W |
Cod SYG | S20000479, S19000604 |
Cod post | IV1, IV3, IV2 |
Roedd Inverness yn un o brif gadarnleoedd y Pictiaid, a chofnodir i Sant Colum Cille ddod yma yn 565 i efengylu i Bridei I, brenin y Pictiaid. Dywedir i'r castell gael ei adeiladu gan Máel Coluim III wedi iddo ddinistrio castell cynharach a adeiladwyd gan Mac Bethad mac Findláich (Macbeth). Ymladdwyd Brwydr Culloden gerllaw'r ddinas yn 1746.
Ar 7 Medi 1921 cynhaliwyd cyfarfod o gabinet y Deyrnas Unedig yma, yr unig dro erioed iddo gyfarfod tu allan i Lundain. Roedd y Prif Weinidog, David Lloyd George, ar ei wyliau yn Gairloch, a galwodd gyfarfod yma i drafod yr argyfwng yn Iwerddon.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Castell Inverness
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Eden Court
- Ysbyty Raigmore
Pobl enwog o Inverness
golygu- Marion Wallace Dunlop, y swffragét cyntaf i fynd ar ympryd (ar 5 Gorffennaf 1909)
- Charles Kennedy, cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
- Mike Zagorski, seiclwr
- Elspet Gray (g. 1929), actores
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2020-08-13 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 4 Hydref 2019
- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 15 Ebrill 2022