Annibynnwr (gwleidydd)
Gwleidydd sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid wleidyddol yw annibynnwr neu wleidydd annibynnol. Gan nad yw fo/hi yn rhwym wrth bolisi plaid mae gwleidydd annibynnol yn rhydd i bleidleisio fel y mynno mewn dadlau seneddol.
Yng ngwledydd Prydain mae Annibynwyr yn brin ar lefelau cenedlaethol, sef etholiadau i Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig, ond maent yn bur niferus ar y cynghorau sir ac weithiau yn rheoli cynghorau, yn enwedig yn achos cynghorau sir gwledig. Ar lefel leol mae cynghorwyr Annibynnol yn gyffredin.
Enghraifft adnabydus o wleidydd annibynnol yw'r cyn ohebydd newyddion Martin Bell, a etholwyd yn AS Annibynnol Tatton yn Lloegr o 1997 hy 2001 ar ôl sefyll ar blatfform wrth-lygred.
Mae gwleiddydion annibynnol Cymru yn cynnwys Dai Davies, AS Annibynnol Blaenau Gwent ers 2006. Olynodd y diweddar Peter Law, a dorrodd i ffwrdd o'r Blaid Lafur mewn protest i fod yn AS Annibynnol.