Gwleidydd Cymreig oedd Peter John Law (1 Ebrill 194825 Ebrill 2006). Roedd yn Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent o 1999 ymlaen ac fe arhosodd yn aelod yno pan etholwyd ef yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 i San Steffan fel Aelod Seneddol dros yr un etholaeth. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur am y rhan fwyaf o'i oes ond yn y blynyddoedd olaf roedd perthynas chwerw rhyngddo â'r Blaid Lafur. Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yr oedd wedi dysgu Cymraeg. Bu hefyd yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent.

Peter Law
Ganwyd1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 2006 Edit this on Wikidata
o canser ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Nant-y-glo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddY Gweinidog dros Lywodraeth Lleol ac Adfywio, Secretary for Local Government and Regeneration, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Peter Law

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 2006

Cyfnod yn y swydd
2005 – 2006

Geni
Plaid wleidyddol Annibynnol
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Y Blaid Lafur (DU) (hyd 2005)
Priod Trish Law

Gyrfa golygu

Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel cynghorydd a daeth i amlygrwydd yn dilyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 pan benodwyd ef gan Alun Michael yn ysgrifennydd llywodraeth leol a'r amgylchedd. Collodd ei swydd yn y cabinet pan ddaeth Rhodri Morgan yn brif weinidog a ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Peter Law yn feirniadol iawn o'r glymblaid honno.

Yn 2005 penderfynodd y Blaid Lafur ddewis ymgeisydd seneddol i Blaenau Gwent o restr menywod-yn-unig. Cythruddwyd Peter Law gan hyn nes iddo benderfynu sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr Etholiad Cyffredinol. Yn anorfod cafodd ei ddiarddel o'r Blaid Lafur ac o ganlyniad i hynny collodd llywodraeth Rhodri Morgan ei fwyafrif o un, gan fod Peter Law yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent yn y Cynulliad. Trodd Peter Law fwyafrif Llafur o 19,000 i fwyafrif o 9,000 iddo ef.

Cyfeiriadau golygu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent
19992006
Olynydd:
Trish Law
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Llew Smith
Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent
20052006
Olynydd:
Dai Davies