Independent Nation: Should Wales leave the UK?

Llyfr am annibyniaeth i Gymru gan y newyddiadurwr Will Hayward yw Independent Nation: Should Wales leave the UK?. Biteback Publishing a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2022.

Ynghylch

golygu

Mae’r llyfr yn trafod teimladau’r wlad am annibyniaeth[1] ac yn anelu at wella ansawdd y ddadl am annibyniaeth i Gymru gyda Hayward yn ychwanegu, “Felly syniad y llyfr yw y gallai dau berson gwahanol ddarllen y llyfr hwn a gallent ddod i gasgliadau gwahanol yn seiliedig ar eu hagwedd at risg, eu hincwm a lle maent yn byw yng Nghymru.” [2]

Mae'r llyfr yn trafod y prif bynciau trafod ynghylch annibyniaeth i Gymru sy'n cynnwys;

  • A all Cymru ei fforddio?
  • Aelodaeth yr UE
  • Pensiynau a'r ddyled genedlaethol
  • Tebygolrwydd o gael annibyniaeth
  • Sut byddai'r refferendwm yn gweithio?
  • Pam mae pobl eisiau annibyniaeth
  • A allai Cymru werthu trydan i Loegr? [3]

Mewn adolygiad i’r Sefydliad Materion Cymreig, disgrifia Glyndwr Jones y gyfrol fel llyfr diduedd, gwybodus a difyr sy’n archwilio’n wrthrychol wirionedd ac anwiredd dadl annibyniaeth Cymru. Mae cwestiwn Gorllewin Lothian yn cael ei godi am ddiffyg senedd Saesneg i Loegr yn unig. Mae’r llyfr hefyd yn sôn am benderfyniadau gwael llywodraeth y DU sy’n cynnwys:

Mae’r llyfr yn nodi’r berthynas doredig rhwng llywodraethau’r DU a Chymru ac yn trafod safbwyntiau cefnogol a gwrthwynebol am annibyniaeth i Gymru. Mae Hayward yn trafod arian cyfred, yr UE, a chynhyrchu ynni, ymhlith ffactorau eraill ac mae Hayward yn dod i'r casgliad ar annibyniaeth, " Gallwn fod yn argyhoeddedig, ond nid wyf eto ".[4]

Dywed y newyddiadurwr Ifan Morgan Jones fod y gyfrol yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ddadl ynghylch Cymru annibynnol ac yn defnyddio arddull mater o ffaith gyda chyngor adeiladol llawn gwybodaeth. Mae Huw Edwards yn nodi yn rhagair y gyfrol nad oes llawer o drafod wedi bod am fanylion annibyniaeth. Mae cryfderau’r gyfrol yn cynnwys y cyfoeth o ymchwil cyfweld, ac mae agweddau gwanach yn cynnwys diffyg trafodaeth am hunaniaeth a chenedlaetholdeb a phwysigrwydd diwydiant cyfryngau cenedlaethol cryf.[5]

Cafodd Hayward ei synnu yn ystod ymchwil ar gyfer ei lyfr at faint o bobl oedd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru i ennill aelodaeth o’r UE, ond ychwanegodd hefyd nad oedd hyn yn “ffactor mwyafrifol ”.[6]

Ar 7 Rhagfyr 2022, bu Hayward yn trafod ei lyfr ochr yn ochr â Gerry Hassan i drafod ei lyfr Scotland Rising: The Case for Independence. Ymddangosodd y ddau yn y City Arms yng Nghaerdydd mewn cydweithrediad rhwng Podlediad Hiraeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ar gyfer dadl wleidyddol wybodus.[7]

"Dim ceiniog llai"

golygu

Yn ystod eu hymgyrch etholiad cyffredinol 2019, fe wnaeth y Torïaid addo i bobl Cymru y byddai Cymru yn cael "dim ceiniog llai" ar ôl Brexit. Dywed Hayward i’r Torïaid dorri’r addewid hwn i bobl Cymru. Wrth ymateb i gyllid yr UE ar ôl Brexit, dwedodd Boris Johnson "We want to control that, don't we?", gyda chytun y Tori Cymreig Alun Cairns. Dywed Hayward fod hyn yn dangos diffyg parch at ddatganoli ac eu bod yn cymryd yn ganiataol mai "Westminster knows best".[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "King Charles woos Welsh in final stop on tour of the union". Financial Times. 2022-09-16. Cyrchwyd 2023-02-25.
  2. "'Wales must forge own path to avoid being left independent by default'". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
  3. Hayward, Will (2022-09-06). "Should Wales leave the UK? Join our indy Q&A". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
  4. Furet, Marine (2022-12-06). "Review - Independent Nation: Should Wales Leave the UK? by Will Hayward". Institute of Welsh Affairs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
  5. "Review: Independent Nation – Should Wales leave the UK?". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-08-28. Cyrchwyd 2023-02-25.
  6. Hayward, Will (2022-09-06). "Supporting Welsh independence to rejoin the EU is a big mistake". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
  7. "What is happening in Scotland and Wales?". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
  8. Hayward, Will (2022-08-31). "Ex-Tory minister confirms party misled Welsh people over EU funding". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.