Mesur y Farchnad Fewnol
Mae Mesur y Farchnad Fewnol (weithiau Bil y Farchnad Fewnol; Saesneg: UK Internal Market Bill) yn fesur cyhoeddus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bwriad y Mesur, yn ôl y Llywodraeth, yw diweddaru'r deddfau sy'n llywodraethu marchnad fewnol y DU, creu egwyddorion newydd i gyd-fynd â'r rhai mewn cyfraith ddomestig a diweddaru'r iaith yn Neddfau Uno 1707 i Saesneg modern.[1] Y bwriad (yn ôl y Ceidwadwyr) yw sefydlu'r trefniadau mewnol ar gyfer masnachu rhwng pedair gwlad y DU ar ôl i gyfnod pontio Brexit (a holl gytundebau yr Undeb Ewropeaidd neu UE) ddod i ben.[2] Yn ymarferol, mae'n golygu y bydd gan Lywodraeth Llundain yr hawl i newid neu ddileu neu drarglwyddiaethu dros ddeddfau llywodraethau Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, am y tro cyntaf erioed. Wrth ddarllen yr erthygl hon, dylid cofio mai enw gwreiddiol yr Undeb Ewropeaidd oedd "Y Farchnad Gyffredin".
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2020 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Yn Ionawr 2020 ymadawodd y DU â’r UE ac aeth i'r hyn a elwir yn 'Gyfnod Pontio' (transition period). Ddiwedd 2020, ni fydd y ffordd mae gwledydd Prydain yn rheoleiddio llafur, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn cael ei phenderfynu gan yr UE mwyach.
Ar 14 Medi fe wnaeth Mesur y Farchnad Fewnol, sy'n anwybyddu elfennau o fargen Brexit, basio’r darlleniad cyntaf yn San Steffan o 340 o bleidleisiau i 263.[3]
Dadleuon dros y Mesur
golyguMae Westminster wedi disgrifio'r mesur fel mesur i "warchod cyfanrwydd tiriogaethol ('integriti') y Deyrnas Unedig" ac un o'r rhai mwyaf uchel ei gloch yn hyn o beth yw Alun Cairns a fu'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 2016 to 2019. Fel Ceidwadwr mae'n gweld atal annibyniaeth y gwledydd Celtaidd yn faes pwysig, a bod y mesur hwn yn hanfodol i gadw 'integriti' y DU.[4] Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 10 Medi 2020, nododd y llywodraeth benderfyniad 2017 y Goruchaf Lys yn R (Miller) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fel un sy'n cefnogi safbwynt y llywodraeth bod “y Senedd yn sofran fel mater o gyfraith ddomestig. ac y gall basio deddfwriaeth sy'n torri rhwymedigaethau Cytundeb y DU."[5]
Dadleuon yn erbyn y mesur
golyguAr y llaw arall, beirniadodd yr Undeb Ewropeaidd y Mesur yn hallt, gan fynegi ei fod yn torri cyfraith ryngwladol.[6] Mae Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, wedi cytuno gyda hynny, gan ddweud wrth Dŷ’r Cyffredin y bydd y mesur yn “torri cyfraith ryngwladol mewn ffordd benodol a chyfyngedig”, trwy or-redeg erthygl pedwar o gytundeb ymadael Brexit. Mae’r mesur hefyd wedi cael ei feirniadu am ei ail-ganoli rheolaeth dros fasnach i Lundain, ac am wyrdroi datganoli pŵer yn y Deyrnas Unedig o'r 4 llywodraeth i'r canol.[7][8]
Yr ymateb i'r Mesur
golyguCymru
golyguMae Llywodraeth Cymru wedi ei ddisgrifio fel “ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sahau pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon” a chyhuddwyd San Steffan o “ddwyn pwerau”.[9]
Yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford mae'r Mesur yn cynrychioli “smash and grab” ar y llywodraethau datganoledig ac yn cymryd yn ôl yr holl bwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban ers 20 mlynedd.[10] Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y mesur yn arwydd o “ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli”.
Yn ôl yr economegydd Dr John Ball, mae Mesur y Farchnad Fewnol yn tanseilio dros 70 mlynedd o ddatblygiad economaidd yng Nghymru.[11]
Yr Alban
golyguDisgrifiodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y Bil fel “ffieidd-dra a fyddai’n mynd i’r afael â datganoli” ac “nid yn unig y mae llywodraeth y DU ar fin torri cyfraith ryngwladol - mae'n amlwg eu bod bellach ar fin torri datganoli”. Mae arweinydd Llafur yr Alban, Alex Rowley, wedi ei ddisgrifio fel “ffars sy'n bygwth sylfeini'r Deyrnas Unedig”.[12]
Iwerddon
golyguAr 9 Medi, fe drydarodd Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, "Dim ond ar sail ymddiriedaeth y gall unrhyw broses drafod fynd yn ei blaen. Pan fydd un parti mewn trafodaeth yn penderfynu y gallant newid yr hyn sydd eisoes wedi'i gytuno a'i ymgorffori yn y gyfraith, mae'n tanseilio ymddiriedaeth mewn gwirionedd. Mae hwn yn amser tyngedfennol yn y broses Brexit ac mae'r peryglon yn uchel iawn."[13]
Lloegr
golyguAr 13 Medi 2020 cyhoeddodd dau gynbrifweinidog y DU, John Major a Tony Blair lythyr ar-y-cyd yn y Sunday Times yn gwrthwynebu'r Mesur. Roedd y llythyr yn mynegi fod y Mesur yn torri rheolau rhyngwladol, yn peryglu heddwch yn Iwerddon, yn mynegi fod credinedd yr 'UK' wedi ei ddryllio. Mae'r llythyr yn gorffen drwy ddweud fod y Mesur "yn gywilydd ac yn embaras", a bod "angen dod a hyn i ben nawr, cyn ei bod yn rhy hwyr", "and if the government itself will not respect the rule of law, then the High Court of Parliament should compel it to do so."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sharma, Rt. Hon Alok (16 Gorffennaf 2020). "Policy paper: UK internal market". Gov.UK.
- ↑ "UK Internal Market Bill". www.instituteforgovernment.org.uk. 9 Medi 2020. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ golwg.360.cymru; Golwg 360; adalwyd 17 Medi 2020.
- ↑ Slawson, Nicola (2020-09-12). "Brexit: Gove claims internal market bill protects UK integrity from EU 'threat'". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "HMG legal position: UKIM bill and Northern Ireland"
- ↑ "EU ultimatum to UK over Brexit talks". BBC News (yn Saesneg). 2020-09-10. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "The Internal Market Bill: implications for devolution". Centre on Constitutional Change (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Don't fall for Boris Johnson's big lie about the Internal Market Bill and its effect on devolution – Tommy Sheppard MSP". www.scotsman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Brexit: New Welsh spending powers set to go to UK government". BBC. BBC. Cyrchwyd 9 Medi 2020.
- ↑ Chappell, Elliot. "Drakeford slams internal markets bill as "smash and grab" on devolution". Labour List. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
- ↑ golwg.360.cymru; Golwg 360; adalwyd 17 Medi 2020.
- ↑ Libby Brooks; Steven Morris (9 Medi 2020). "Plan for post-Brexit UK internal market bill 'is an abomination'. Scottish and Welsh leaders say proposed bill undermines their powers and is 'an attack on democracy'". The Guardian. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Press Association (10 Medi 2020). "Irish Government warns of serious implications of changes to Brexit deal". Dunfermline Press. Cyrchwyd 10 Medi 2020.