Inez Bensusan

actores a aned yn 1871

Ffeminist o Awstralia oedd Inez Bensusan (1871–1967) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, dramodydd, awdur a swffragét.

Inez Bensusan
Ganwyd1871 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Bu farw1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Galwedigaethactor, dramodydd, ysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Sydney yn 1871 i Samuel Levy Bensusan a'i wraig. Roedd ei theulu'n gyfoethog ac yn 1893 symudon nhw i Loegr. Daeth yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched a sefydlwyd gan Emmeline Pankhurst ac yn 1907 roedd yn un o sylfaenwyr Cynghrair Etholfraint yr Actorion (Actresses' Franchise League).

Awdures golygu

Ysgrifennodd dair drama un act ar gyfer y Gynghrair ac roedd yn bennaeth eu hadran ddrama. Bu'n hefyd yn aelod o'r Actresses' Franchise League a'r Gynghrair Etholfraint Menywod Iddewig (Jewish League for Woman Suffrage) am rai blynyddoedd.[1]

Yn 1911 roedd y suffragetiaid (sef yr enw a roddir i aelodau'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched) yn gwrthwynebu'r Cyfrifiad. Fel rhan o'u brotest Perfformiwyd Yr Afal am un o'r gloch y bore, am yr ail waith.[1]

Y flwyddyn ddilynol, fe'i penodwyd ar fwrdd rheoli Cynghrair Etholfraint Menywod Iddewig.

Yn Rhagfyr 1913, casglodd ynghyd griw theatrig yn Theatr Coronet, ond wedi ambell berfformiad torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf a rhoddwyd y ffidil yn y to. Sefydlodd Cwmni Theatr y Merched ac aethant ar daith yn diddori Byddin Lloegr yng Nghwlen, yr Almaen.[2]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Inez Bensusan © Orlando Project". orlando.cambridge.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2017-11-22.
  2. "SAPDD Biographies - Inez Bensusan". SAPDD.