Ingeborg Drewitz
Awdur ac adademig Almaenig oedd Ingeborg Drewitz (10 Ionawr 1923 - 26 Tachwedd 1986).[1][2][3][4][5]
Ingeborg Drewitz | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ionawr 1923 Berlin |
Bu farw | 26 Tachwedd 1986 o canser Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | Bettine von Arnim |
Gwobr/au | Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Ernst Reuter, Gwobr Lenyddol Georg Mackensen, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Carl-von-Ossietzky-Medaille |
Fe'i ganed yn Berlin ac yno hefyd y bu farw o ganser. Priododd cariad ei phlentyndod, Bernhard Drewitz, a chawsant dair merch.[6]
Coleg a gwaith
golyguGraddiodd ym 1941 o'r Königin-Luise-Schule yn Berlin-Friedenau, a chymerodd radd meistr mewn llenyddiaeth, hanes ac athroniaeth Almaeneg, ac yna doethuriaeth ar 20 Ebrill 1945, ym Mhrifysgol Friedrich-Wilhelm (Prifysgol Humboldt heddiw yn Berlin ). Roedd ei thesis ar y bardd Almaenig Erwin Guido Kolbenheyer.[7]
Rhwng 1973 a 1980 bu'n dysgu yn y Sefydliad Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Rydd Berlin. Flwyddyn cyn ei marwolaeth roedd yn rheithiwr yng 'Nghystadleuaeth Ingeborg Bachmann' yn Klagenfurt.
Yr awdur
golyguFel awdur, roedd ganddi ddiddordeb yn yr Oleuedigaeth a chanolbwyntiodd ar hanes yr Almaen ar ôl y rhyfel a hanes cymdeithasol menywod yn y gorffennol a'r presennol. Yn ôl Knaurs Lexikon der Weltliteratur: darluniodd yn ei gwaith llenyddol y dyn modern a'i anallu i ddeall ei gymydog, yn ogystal â phroblem unigoliaeth bywyd. Mae problemau menywod a chyflogaeth wrth wraidd ei gwaith.[8]
Ei drama Alle Tore waren bewacht (Gwarchodwyd yr holl gatiau), a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1955, oedd y ddrama Almaeneg gyntaf i fynd i'r afael ag amodau mewn gwersylloedd crynhoi.[6]
Ei nofel fwyaf llwyddiannus oedd Gestern war heute: Hundert Jahre Gegenwart (Ddoe heddiw: Can mlynedd o bresenoldeb) (1978), a oedd yn delio â thair cenhedlaeth o fenywod yn yr 20g.
Nofelau
golygu- Der Anstoß. Bremen: Schünemann 1958
- Das Karussell. Göttingen: Sachse & Pohl 1969
- Oktoberlicht oder Ein Tag im Herbst. München: Nymphenburger 1969
- Wer verteidigt Katrin Lambert? Stuttgart: Werner Gebühr 1974
- Das Hochhaus. Stuttgart: Werner Gebühr 1975
- Eis auf der Elbe. Tagebuchroman. Düsseldorf: Claassen 1982
- Eingeschlossen. Düsseldorf: Claassen 1986. NA: München: Goldmann TB 1988
Ffeithiol
golygu- Die dichterische Darstellung ethischer Probleme im Werke Erwin Guido Kolbenheyers. Berlin: Univ. Diss. 1945
- Berliner Salons: Gesellschaft und Literatur zwischen Aufklärung und Industriezeitalter. Berlin: Haude & Spener, Schriftenreihe: Berlinische Reminiszenzen Bd. 7, 1965
- Leben und Werk von Adam Kuckhoff. Berlin: Friedenauer Presse, 1968
- Bettine von Arnim. Romantik – Revolution – Utopie. Biographie. Düsseldorf/Köln: Diederichs 1969 – Hildesheim: Claassen, 1992
- Zeitverdichtung: Essays, Kritiken, Portraits; gesammelt aus 2 Jahrzehnten. Wien/München/Zürich: Europaverlag, 1980
- Kurz vor 1984. Stuttgart: Radius-Verlag, 1981
- Schrittweise Erkundung der Welt. Reise-Eindrücke. Wien u.a. : Europaverlag, 1982
- Unter meiner Zeitlupe. Porträts und Panoramen. Wien u.a. : Europaverlag, 1984
- Junge Menschen messen ihre Erwartungen aus, und die Messlatten stimmen nicht mehr – die Herausforderung: Tod. Stuttgart: Radius-Verlag, 1986
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Ernst Reuter (1963), Gwobr Lenyddol Georg Mackensen (1970), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1980), Carl-von-Ossietzky-Medaille (1980) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_100. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022. https://www.deutsche-biographie.de/11852741X.html#dbocontent. dyddiad cyrchiad: 1 Chwefror 2023.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. JSTOR. https://muse.jhu.edu/journals/nwsa_journal/v021/21.1.mattson.pdf. https://muse.jhu.edu/journals/nwsa_journal/v021/21.1.mattson.html. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Ingeborg Drewitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ingeborg Drewitz". ffeil awdurdod y BnF. "Ingeborg Drewitz". "Ingeborg Drewitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ingeborg Drewitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ingeborg Drewitz". "Ingeborg Drewitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 6.0 6.1 berlin.de Archifwyd 2013-05-13 yn y Peiriant Wayback — Who was Ingeborg Drewitz?
- ↑ Dissertation by Ingeborg Drewitz: The poetic representation of ethical problems in the works of Erwin Guido Kolbenheyer. Berlin: Univ. Diss 1945
- ↑ Knaurs Lexikon der Weltliteratur ((Almaeneg) "Geiriadur Knaur o Lenyddiaeth y Byd"), 3ydd argraffiad; 1995.