Io (lloeren)
Un o loerennau'r blaned Iau yw Io. Darganfuwyd y lloeren gan y seryddwr Galileo Galilei yn 1610. Fe'i henwir ar ôl Io ferch Inachus ac offeiriades Hera ym mytholeg y Groegiaid, un o gariadon Zeus.
Un o brif nodweddion Io yw'r cannoedd o losgfynyddoedd ar ei wyneb; mae nifer o chwiliedyddion gofod NASA megis Galileo wedi tynnu lluniau o ffrwydriadau folcanig. Credir fod hyn yn ganlyniad o'i agosrwydd i Iau, sydd yn achosi cynhesu yng nghanol y lloeren.
Gweler hefyd
golyguLloerennau eraill Iau: