Galileo Galilei
Seryddwr a ffisegydd o Eidalwr oedd Galileo Galilei (15 Chwefror 1564 – 8 Ionawr 1642), y seryddwr cyntaf i ddefnyddio telesgop i astudio'r sêr. Dywedodd y gwyddonydd Stephen Hawking, "Galileo, perhaps more than any other single person, was responsible for the birth of modern science."[1]
Galileo Galilei | |
---|---|
Ganwyd | Galileo di Vincenzo Bonaiuti de' Galilei 15 Chwefror 1564 Pisa |
Bu farw | 8 Ionawr 1642 Arcetri |
Man preswyl | Pisa, Padova, Fflorens |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Fflorens, Uchel Ddugiaeth Toscana |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | seryddwr, athronydd, mathemategydd, ffisegydd, dyfeisiwr, astroleg, polymath, academydd, gwyddonydd, peiriannydd, athronydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Galilean transformation, equations for a falling body |
Tad | Vincenzo Galilei |
Mam | Giulia Ammannati |
Partner | Marina Gamba |
Plant | Vincenzo Gamba, Maria Celeste |
Gwobr/au | International Space Hall of Fame |
llofnod | |
Darganfu pedwar lloeren mwyaf y blaned Iau - Io, Ewropa, Ganymede a Challisto. Ef oedd y dyn cyntaf i ddarganfod cyrff allfydol a chaiff y pedwar hyn eu hadnabod heddiw fel Lloerennau Galileaidd.
Galileo hefyd oedd y dyn cyntaf i weld y blaned Neifion, ond wnaeth o fethu gwireddu pwysigrwydd y gwrthrych, yn meddwl ei bod yn seren. O ganlyniad, ni chafodd y blaned ei chydnabod tan 1846.
Roedd Galileo'n gefnogwr o theori heliosentrig Copernicus. O ganlyniad, cafodd ei ddistewi gan yr Eglwys Gatholig.
Llyfryddiaeth
golygu- La Billancetta (1586)
- Le Meccaniche (c.1600)
- Le operazioni del compasso geometrico et militare (1606)
- Sidereus Nuncius ("Y negesydd serennog", 1610)
- Il Saggiatore ("Y profwr", 1623)
- Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo ("Deialog ynglŷn â dwy brif system y byd", 1632)
- Discorsi e dimostrazioni matematiche, intorno a due nuove scienze (1638)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Galileo and the Birth of Modern Science, gan Stephen Hawking, American Heritage's Invention & Technology, Gwanwyn 2009, Cyfrol. 24, Rhif 1, tud. 36