Ioan Hefin
Actor a darlithydd o Gymru yw Ioan Hefin (ganwyd 1963).
Ioan Hefin | |
---|---|
Ganwyd | Ioan Hefin Evans Mehefin 1963 Mynydd-y-garreg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, academydd |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ioan Hefin yn Mynydd-y-garreg yng Nghwm Gwendraeth.[1]. Aeth i Ysgol Gynradd Mynydd-y-garreg ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin cyn mynd i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio gyda B.Mus (anrhydedd).[2]
Gyrfa
golyguMae'n ddarlithydd ar raglen BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[3][4]
Actio
golyguMae Hefin wedi bod yn actio ar lwyfan a theledu ers 1986. Mae'n wyneb cyfarwydd ar ddramau S4C gydag ymddangosiadau yn Pobol y Cwm, Con Passionate, Teulu, Pen Talar, Gwaith/Cartref a Dim Ond Y Gwir.
Yn 2013 fe gymerodd ran mewn sioe un-dyn gyda Theatr Na n'Og yn chwarae rhan y gwyddonydd o Gymro, Alfred Russel Wallace a ddatblygodd theori am esblygiad ychydig cyn i Charles Darwin gyhoeddi ei ddamcaniaethau e.
Yn 2015 fe ffilmiodd ran yn Peregrine’s Home for Peculiars, ffilm gan Tim Burton sy'n addasiad o'r nofel o'r un enw gan Ransom Riggs. Fe fydd y ffilm yn cael ei rhyddhau yn 2016.[4]
Bywyd personol
golyguMae'n byw ym Mhorth Tywyn gyda'i wraig Sharon a dwy ferch, Heini ac Elen.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "New Tim Burton film to star Samuel L Jackson to star and Gwendraeth actor Ioan Hefin", llanellistar.co.uk, 25 Mawrth 2015.
- ↑ CV ar wefan swyddogol. Adalwyd ar 24 Ionawr 2016.
- ↑ Proffil Staff y Drindod Dewi Sant. Adalwyd ar 24 Ionawr 2016.
- ↑ 4.0 4.1 "Actor a darlithydd yn ymddangos yn ffilm Tim Burton", golwg360.com, 9 Ebrill 2015.
- ↑ "Ioan Hefin yn mwynhau chwarae'r dihiryn", y-cymro.com, 12 Mawrth 2013.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Ioan Hefin ar wefan yr Internet Movie Database