Gwaith/Cartref (cyfres S4C)
Cyfres ddrama oedd Gwaith/Cartref a ddarlledwyd ar S4C rhwng 2011 a 2018. Mae'n dilyn helyntion disgyblion ac athrawon ysgol yn ne Cymru. Cawn weld bywydau proffesiynol ac allgyrsiol y cymeriadau. O'r gyfres gyntaf, mae'r ddrama wedi sôn am themâu difrifol megis godineb, galar, bwlio, cancr a salwch meddyliol.
Gwaith/Cartref | |
---|---|
Genre | Drama Teledu |
Cyfarwyddwyd gan | Dafydd Palfrey Andy Newbery Hefin Rees |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 9 |
Nifer penodau | 90 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Sophie Fante Nora Ostler |
Amser rhedeg | 60 munud (2011-2015), 30 munud (2016-2017) 60 munud (2018) |
Cwmnïau cynhyrchu |
Fiction Factory |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C (2011-2018) |
Rhediad cyntaf yn | 18 Medi 2011 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Cynhyrchiad
golyguYn y pum cyfres cyntaf roedd y gyfres wedi ei leoli yn ysgol ddychmygol "Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf". Darlledwyd y cyfresi gwreiddiol ar nos Sul am 9 y.h. Ar ôl darllediad y gyfres gyntaf yn 2011, cafodd yr ail gyfres ei darlledu yng ngwanwyn 2012, y drydedd gyfres ym Mawrth 2013, y bedwaredd yn Ionawr-Mawrth 2014 a'r pumed yn Ionawr-Mawrth 2015.
Ar gyfer y chweched cyfres yn Ionawr 2016, newidiwyd y rhaglen yn sioe hanner awr wedi ei ddarlledu ar nos Fercher am 8.30 y.h. fel arfer. Symudwyd i ysgol ffuglennol newydd "Porth y Glo" yng Nghwm Rhymni a roedd rhan fwyaf o'r cymeriadau yn newydd.[1] Dangoswyd seithfed cyfres yn Medi 2016 a Tachwedd 2016[2] wythfed cyfres yn Ionawr 2017. Cychwynnodd nawfed cyfres yn Chwefror 2018 gan ddychwelyd i rhaglen awr o hyd.
Cymeriadau presennol
golygu- Dr Stephanie Murphy - Prifathrawes (Siwan Morris)
- Eurig Bell - Dirprwy brifathro (Ieuan Rhys)
- Llywela Harding - Athrawes Cymraeg (Sue Roderick)
- Mei Huws - Gofalwr yr ysgol (Bradley Freegard)
- Donna Isaacs - Ysgrifenyddes yr ysgol (Shelley Rees)
- Colin Isaacs - Athro Cemeg (Jâms Thomas)
- Dylan Isaacs - myfyriwr (Jacob Oakley)
- Phoebe Isaacs - myfyriwr (Mabli Jen Eustace)
- Math Roberts - Athro Mathemateg (Aled Bidder)
- Aled Jenkins - Athro Cymraeg (Gareth Jewell, cyfres 1-6)
- Annest 'Birdy' Haf - Athrawes Drama (Lowri Palfrey)
- Ceri Gravelle - Athrawes Bioleg (Lisa Jen Brown)
- Sian Bowen-Harries - Dirprwy Brifathrawes yn Ysgol Bro Tâf, Prifathrawes yn Ysgol Llwyn Dafydd (Janet Aethwy) (cymeriad rheolaidd cyfres 1-5, cymeriad gwadd cyfres 6)
Cymeriadau blaenorol
golygu- Grug Matthews - Athrawes Mathemateg (Rhian Blythe, cyfres 1-5)
- Beca Matthews - Athrawes Ymarfer Corff (Hannah Daniel, cyfres 1-5)
- Wyn Rowlands - Athro Cymraeg a Astudiaethau'r Cyfryngau (Richard Elis, cyfres 3-5)
- Rhydian Ellis – Prifathro (Rhodri Evan, cyfres 1-5)
- Mrs. Gwen Lloyd – Pennaeth Addysg Grefyddol (Rhian Morgan, cyfres 1-5)
- Gemma Haddon – Ysgrifenyddes yr ysgol (Siw Hughes, cyfres 1-5)
- Brynmor Davies - Athro Mathemateg dros dro, yna'n barhaol (Bryn Fôn, cyfres 3-5)
- Louise Stevenson - Athrawes Anghenion Arbennig (Sara Lloyd)
- Tanwen Llwyd - Myfyriwr Bro Tâf (Sian Davies)
- Heuls - Perchennog 'Crwban' a chwaer Aled Jenkins (Elin Llwyd, cyfres 3-5)
- Miss Perkins - Ysgrifenyddes ysgol (Andrea Edwards, cyfres 1-2)
- Dan James - Athro Daearyddiaeth (Huw Rhys, cyfres 1-2)
- Simon Watkins - Athro Daearyddiaeth (Rhys ap Trefor, cyfres 1-2, gwadd cyfres 3)
- Dewi Pritchard - Athro Hanes (Aled Pugh, cyfres 5)
- Lisa Morris - Athro Ffrangeg a Pennaeth Gofal Bugeiliol yn Ysgol Llwyn Dafydd (Ffion Williams, cyfres 3-5)
- Zara Dudek - Dynes cinio yn Ysgol Llwyn Dafydd (Carys Eleri, cyfres 3-5)
- Jack Lewis - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 10 (Sam Davies)
- Nerys Edwards - Astudiaeth Drama/Cyfryngau (Catrin Fychan, cyfres 1-2)
- Aneurin Rees - Athro Mathemateg dan hyfforddiant (Arwyn Jones, cyfres 1)
- Emyr Tomos - Athro Cymraeg (Lee Haven-Jones, cyfres 1)
- Sara Harries - Athro Celf (Lauren Phillips, cyfres 1-3)
- Nadine Smith - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 9 (Manon Grocott, cyfres 3)
- Llinos Preece - Athro Gwyddoniaeth (Elin Phillips, cyfres 3)
- Mr Hassan - Rheolwr mosg (Ike Khan, cyfres 3)
Llwyddiannau
golygu- Enillydd - Bafta Cymru 2014 am Actores Gorau (Rhian Blythe)
- Enwebu - Bafta Cymru 2014 am Actores Gorau (Siw Hughes)
- Enillydd gwobr am gyfres ddrama orau 2013 - Celtic Media Festival yn Abertawe,
- Enwebu - Bafta Cymru 2013 am Ffotograffiaeth a goleuo (Rory Taylor)
- Enwebu - Bafta Cymru 2012 am ddylunio cynnyrch (Bill Bryce), Golygu ffuglen (Mike Hopkins a Rhys ap Rhobert) Gwallt a cholur (Gwenno Penrhyn), Gwisg (Sian Jenkins), Drama deledu (Sophie Fante), Actores (Rhian Morgan)[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwaith/Cartref centres around the fictional school Porth y Glo and it's filmed in the Rhymney Valley (en) , WalesOnline, 21 Ionawr 2016. Cyrchwyd ar 2 Mawrth 2016.
- ↑ Wynebau newydd yn achosi anhrefn ym Mhorth y Glo. S4C (1 Medi 2016). Adalwyd ar 18 Ionawr 2017.
- ↑ Fiction Factory
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwaith/Cartref ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan Facebook