Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

(Ailgyfeiriad o Coleg Prifysgol Dewi Sant)

Prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion ydy Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl prifysgolion hynafol Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion yr Alban, dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o israddedigion, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan oedd y brifysgol leiaf yn Ewrop. Yn Rhagfyr 2009, unwyd y coleg â Choleg y Drindod, Caerfyrddin i ffurfio prifysgol newydd, sef Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a dderbyniodd ei siartr brenhinol ar 21 Mehefin 2010.[3]

Prifysgol Cymru,
Llanbedr Pont Steffan
Arwyddair Gair Duw Goreu Dysg
Sefydlwyd 1822
(siarter brenhinol 1828)
Math Cyhoeddus
Gwaddol £5.9M (2004/2005)
Canghellor Y Tywysog Siarl
Is-ganghellor Medwin Hughes
Staff 200
Myfyrwyr 9,150[1]
Israddedigion 7,455 (1,100 yn byw ar y campws)[1]
Ôlraddedigion 1,035[1]
Lleoliad Llanbedr Pont Steffan, Baner Cymru Cymru
Campws Gwledig
Cyn-enwau Coleg Dewi Sant
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Lliwiau Du ac aur[2]
Tadogaethau Prifysgol Cymru
ACU
Universities UK
Gwefan http://www.llambed.ac.uk/
Yn 2009 trawsnewidiwyd y coleg; ceir erthygl ar wahân ar Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Pan benodwyd Thomas Burgess yn Esgob Tyddewi yn 1803, teimlodd angen mawr i sefydlu coleg lle y gallai dynion ifanc hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth.

Nid oedd gan Burgess unrhyw gysylltiadau Cymreig; fe'i ganed yn Lloegr ym 1756 ac ar ôl treulio amser yng Nghaerwynt a Rhydychen arhosodd am gyfnodau byr yn Salisbury a Durham cyn cael ei benodi i'w esgobaeth gyntaf yng Nghymru ym 1803. Gadawodd ym 1825 i fod yn Esgob Salisbury a bu farw ym 1837. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn Llanddewi Brefi (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill Esgob Caerloyw ym 1820 cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw).

Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar Wyl Ddewi 1827. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym 1828. Am dros ganrif yr oedd yn goleg gradd annibynnol, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, ond gan gadw cyswllt agos â'r eglwys. Yn y 1960au tyfodd cysylltiadau â Prifysgol Cymru ac yn sgil hynny daeth yn gymwys i dderbyn cymorth llawn gan y Trysorlys. Ym 1971 daeth yn sefydliad cyfansoddol o Brifysgol Cymru a'i alw'n Goleg Prifysgol Dewi Sant. Ym 1996 mewn ymateb i ddeiseb o'r Brifysgol - newidiwyd y teitl gan y Cyfrin Gyngor i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn unol â datblygiadau o fewn y brifysgol ei hun ac er mwyn cydnabod twf a newid yn statws y sefydliad.

Heddiw mae Llanbedr Pont Steffan yn un o'r deg Sefydliad Cyfansoddol sy'n ffurfio Prifysgol Ffederal Cymru sydd, ar ôl Prifysgol Llundain, gyda'r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Adeiladau

golygu

Yr Hen Goleg

golygu
 
Yr Adeilad Dewi Sant

Yr Hen Adeilad, sef Adeilad Dewi Sant heddiw, oedd yr adeilad gwreiddiol a gynlluniwyd gan C.R. Cockerell a dyma lety'r myfyrwyr cyntaf ym 1827. Mae'n cynnwys ystafelloedd darlithio, ystafelloedd cyffredin, llety myfyrwyr a'r canlynol:

Yr Hen Neuadd sef y ffreutur tan agor y ffreutur bresennol - ym 1969 - ac ni bu llawer o ddefnydd ohoni tan 1991 pan gafodd ei hadnewyddu a'i hailagor; erbyn hyn mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel un o'r prif ystafelloedd cyhoeddus ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau ac i'w defnyddio gan gyrff allanol.

Adnewyddwyd Capel Dewi Sant yn ystod y 1930au yn bennaf trwy ddarparu reredos newydd ym 1933 ac atgyweirio sylweddol ar yr organ ym 1934.

Llyfrgell Y Sylfaenwyr oedd llyfrgell y coleg hyd at agor y llyfrgell newydd ym 1966 ac erbyn hyn mae'n diogelu casgliad o tua 20,000 o lyfrau a chyfnodolion a argraffwyd rhwng 1470 a 1850. Mae'r casgliad yma yn hollol unigryw i Lanbedr Pont Steffan.

Adeiladau Newydd

golygu
 
Yr Adeilad Caergaint Gwreiddiol

Yr Adeilad Caergaint a agorwyd ym 1897, ond dymchwelwyd ym 1971. Agorwyd yr adeilad Caergaint newydd gan Is-Ganghellor Prifysgol Caint ym 1973.

Y llyfrgell newydd, a agorwyd gan Dug Caeredin, Canghellor Prifysgol Cymru, yn 1966.

Adeilad y Celfyddydau, a agorwyd gan Peter Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn 1971, ar yr un pryd a'r Adran Daearyddiaeth newydd.

Theatr Cliff Tucker, a agorwyd gan Syr Anthony Hopkins yn 1995.

Adeilad Sheikh Kalifa (yr Adran Ddiwinyddiaeth newydd) a agorodd yn Ffordd y Coleg yn Hydref 1997.

"Gweiddi'r Coleg"

golygu

O'r llawlyfr myfyrwyr 1938-39:

Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Nawr Dewi. Nawr Dewi. Nawr Dewi.
Dy Blant. Dy Blant. Dy Blant.
Backshe Odinthorog. Backshe Odinthorog.
Niri Giri Wari. Niri Giri Wari.
Zey Zey Zey
Bing Bang Odin. Bing Bang Odin.
Io Dewi. Io Dewi. Io Dewi.
Dewi Sant. Dewi Sant. Dewi Sant.
Hooray!

Academyddion hynod

golygu

Graddedigion

golygu

Adrannau

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu