Mae Ioga Bikram yn system o ioga poeth, sef math o ioga fel ymarfer corff, a ddyfeisiwyd gan Bikram Choudhury ac sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth BC Ghosh, a ddaeth yn boblogaidd yn y 1970au cynnar. Mae dosbarthiadau'n cynnwys dilyniant sefydlog o 26 asana, wedi'u hymarfer mewn ystafell wedi'i chynhesu i 105 °F (41 °C) gyda lleithder o 40%, wedi'i fwriadu i efelychu hinsawdd rhanau o India. Mae carpedi wedi'u gosod yn yr ystafell ac mae'r waliau wedi'u gorchuddio â drychau. Gall yr hyfforddwr addasu ystum ioga'r myfyrwyr. Roedd arddull addysgu Choudhury ar adegau'n hynod o ddigywilydd.

Ioga Bikram
Mathioga, ioga poeth Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaioga poeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bikramyoga.com/ Edit this on Wikidata

Lledaenodd Ioga Bikram yn gyflym ar draws America a'r byd gorllewinol, gan gyrraedd uchafbwynt o ryw 1,650 o stiwdios mewn o leiaf 40 o wledydd yn 2006. Ceisiodd Choudhury ddal ei afael ar hawlfraint y dilyniant Bikram yn 2011, ac am flynyddoedd; yn y diwedd, roedd yn aflwyddiannus. Yn 2016, wynebodd achosion cyfreithiol a chyhuddiadau o ymosodiad rhywiol, a ffodd Choudhury i India, gan adael Bikram Yoga Inc. i gael ei redeg gan eraill.[1]

Arddull golygu

 
Mae 26 osgo Ioga Bikram Yoga'n cynnwys rhai fel Dandayamana-Janushirsasana na ddefnyddir yn eang mewn arddulliau eraill.

Mae dosbarthiadau Cyfres Cychwynnol Ioga Bikram yn rhedeg am 90 munud ac maent bob amser yn cynnwys 26 ystum, sef dilyniant sefydlog o 24 asanas a dau pranayama (yr arfer iogig o ganolbwyntio ar anadlu tra'n ymarfer asanas) a'r olaf yw Kapalabhati, shatkarma (puro).[2][3][4] Mae'r ystafell wedi'i ffitio â drychau a charpedi; yn aml, gall yr athro addasu'r asana ar gyfer y myfyrwyr unigol, a gall y myfyriwr hefyd addasu eu hosgo eu hunain gan ddefnyddio'r drychau.[5]

Hawlfraint golygu

Honnodd Choudhury, gan ddechrau yn 2011, fod Ioga Bikram dan hawlfraint ac na ellid ei ddysgu na'i gyflwyno gan unrhyw un nad oedd wedi'i awdurdodi. Yn y flwyddyn honno, cychwynnodd Choudhury achos cyfreithiol yn erbyn Yoga to the People, stiwdio ioga gystadleuol a sefydlwyd gan gyn-fyfyriwr Choudhury a gyda lleoliad ger un o stiwdios Bikram Yoga yn Efrog Newydd, ac yn ddiweddarach cychwynnodd un arall yn erbyn yr Evolation Yoag yn Florida. Collodd Choudhury yn y ddau achos ac apeliodd yn erbyn y penderfyniad, ond yn y pen draw gwrthododd y Llys Apêl ei hawliad o berchnogaeth yr hawlfiau dros ystumiau ioga o fewn Ioga Bikram.[6][7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Godwin, Richard (18 Chwefror 2017). "'He said he could do what he wanted': the Scandal that Rocked Bikram Yoga". The Guardian.
  2. "26 Bikram Yoga Poses". www.bikramyogaposesguide.com.
  3. Duffin, Erin. "The 26 Poses of Bikram Yoga". DoYouYoga. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2019.
  4. Achanta, Ramya (13 Awst 2019). "The 26 Bikram Yoga Poses – A Complete Step-By-Step Guide". StyleCraze.
  5. Tripp, Megan (11 Medi 2013). "Hot Yoga vs Bikram Yoga: What's The Difference?". Boston Magazine.
  6. Dolan, Maura (9 Hydref 2015). "Downward dog duplication? Relax, yoga poses can't be copyrighted, court rules". Los Angeles Times. Cyrchwyd 2018-10-11.
  7. "Court Says Bikram Choudhury Can't Copyright His Yoga Poses". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-11.