Ionad Chaluim Chille Ìle
Mae Ionad Chaluim Chille Ìle (Cymraeg: Canolfan Columba Ìle) yn goleg cyfrwng Gaeleg ar lan Loch an Dàla, ger Gartnatra ar Ynys Ìle, yn yr Alban. Mae wedi'i henwi ar ôl Sant Calum Cille (Columba), fe'i sefydlwyd yn 2002 fel rhan o Brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, ac mae mewn partneriaeth â'r fam goleg, Sabhal Mòr Ostaig ar Ynys Sgitheanach (Skye).
Enghraifft o'r canlynol | coleg |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2002 |
Rhanbarth | Argyll a Bute |
Mae'r Ganolfan yn addysgu iaith, diwylliant a threftadaeth Gaeleg trwy gynnig dosbarthiadau Gaeleg, cyrsiau byr, a graddau baglor trwy ei phartneriaeth â SMO. Mae gan y ganolfan lyfrgell Gaeleg ac mae'n codi arian drwy rentu ystafelloedd.[1] Ceir hefyd caffe, Cafaidh Blasta, ar y safle.[2]
Cennad y sefydliad yw: Is e ar n-amas a bhith mar Ionad Cànain, Cultair is Dualchais na Gàidhlig ann an Earra-Ghàidheal stèidhichte gu seasmhach ann an Ionad Chaluim Chille Ìle ("Ein nod yw bod yn Ganolfan Iaith Aeleg a Threftadaeth Ddiwylliannol Argyll gyda’n hyb wedi’i lleoli’n gadarn yn y Ganolfan ar Ynys Ìle").
Ni ddylid ei gymysgu â'r un enw "Arainn Chaluim Chille", un o gampysau Sabhal Mòr Ostaig yn Skye.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "About us". Ionad Chaluim Chille Ìle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2016. Cyrchwyd 7 Ionawr 2017.
- ↑ "Cafaidh Blasta". Gwefan Ionad Chaluim Chille Ìle. Cyrchwyd 9 Mai 2024.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ionad Chaluim Chille Ìle
- Ionad Chaluim Chille Ìle - Islay Gaelic Centre Sianel Youtube y Coleg