Sabhal Mòr Ostaig

Coleg yn dysgu trwy gyfrwng Gaeleg ar ynys An t-Eilean Sgitheanach (Skye) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Sabhal Mòr Ostaig (yn llythrennol, "Beudu Mawr Ostaig"). Mae bellach yn rhan o strwythur Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd yr Alban, (Gaeleg: Prifysgol na Gàidhealtachd a nan Eilean).

Sabhal Mòr Ostaig
Mathcoleg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1973 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.087°N 5.872°W Edit this on Wikidata
Map

Saif y coleg ar benrhyn Sleat, tua 3 km i'r gogledd o Armadale. O dref Mallaig ar y tir mawr (a gwasanaeth rheilffordd i Glasgow) mae fferi i Armadale. Mae hefyd gampws ar ynys Islay, a elwir yn Ionad Chaluim Chille Ìle a sefydlwyd yn 2002.

Sefydlwyd y coleg yn y 1970au gan Syr Iain Noble. Bu'r bardd Gaeleg Sorley MacLean ymhlith aelodau'r bwrdd rheolwyr cynnar, a dechreuodd y prifathro cyntaf, Farquhar MacLennan o Raasay, ar ei waith yn 1976. O 2002 ymlaen, dechreuodd y coleg gynnig graddau fel than o'r UHI Millennium Institute.

Cynhelir Darlithoedd Sabhal Mòr yma yn flynyddol.

Adeilad gwreiddiol Sabhal Mòr Ostaig
Yr adeilad newydd
Arwyddion uniaith Gaeleg


Dolenni allanol

golygu