Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd

Prifysgol ffederal ar gyfer ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban.

Mae Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (Saesneg: University of the Highlands and Islands, talfyrir i UHI; Gaeleg: Oilthigh na Gàidhealtachd a nan Eilean) yn brifysgol drydyddol sy'n cynnwys Cymrodyr Academaidd sef 13 o golegau a sefydliadau ymchwil yn ardal Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban sy'n darparu addysg brifysgol. Lleolir y swyddfa weithredol yn Inverness. Sefydlwyd y brifysgol, sy'n brifysgol ffederal, yn 2011. Cyllideb y Brifysgol oedd £132 miliwn yn 2021-22.[1]

Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd
Enghraifft o'r canlynolprifysgol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2011 Edit this on Wikidata
LleoliadInverness Edit this on Wikidata
Map
Aelod o'r  canlynolJisc Edit this on Wikidata
Isgwmni/auEnvironmental Research Institute, Lews Castle College, West Highland College, Sabhal Mòr Ostaig, Orkney College, UHI Perth, Moray College, Shetland College, Inverness College, Highland Theological College, North Highland College, UHI Archaeology Institute, Orkney Research Centre for Archaeology, Shetland UHI, Institute for Northern Studies Edit this on Wikidata
RhanbarthCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.uhi.ac.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan Brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd nifer o raglenni israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil, y gellir astudio llawer ohonynt mewn amrywiaeth o leoliadau yn yr ardal. Yn 2021-22 roedd cyfanswm o 36,004 o fyfyrwyr; 10,811 ohonynt yn fyfyrwyr Addysg Uwch Prifysgol, (5,647 llawn amser a 5,164 rhan amser) ac roedd cyfanswm o 25,193 o fyfyrwyr Addysg Bellach (3,857 yn llawn amser, a 21,336 yn rhan amser).[1]

Mae 70 o ganolfannau dysgu wedi'u gwasgaru ar draws yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, Moray a Swydd Perth.[2]

Hanes golygu

 
Prif fynedfa Coleg Inverness sy'n rhan o'r Brifysgol (2016). Mae colegau addysg bellach yn rhan o'r brifysgol ffederal

Er mai Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd yw prifysgol fwyaf newydd yr Alban,[3] mae gan lawer o'i 13 cyfadran a sefydliad ymchwil hanes llawer hirach, gyda'r gyntaf yn cael ei sefydlu yn y 19g. Mae rhwydwaith UHI (Prifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd) wedi cael strwythur unigryw ac mae’r ffordd y mae wedi datblygu fel sefydliad aml-gampws wedi’i gyfyngu gan fframwaith deddfwriaethol sy’n trin addysg bellach ac addysg uwch.[4]Mae technoleg wedi chwarae rhan bwysig wrth gysylltu sefydliadau.[5]

Ym mis Ebrill 2001, daeth yn Athrofa Mileniwm UHI wrth i Senedd yr Alban ddyfarnu statws Athrofa Addysg Uwch iddo. Erbyn 2004, roedd deoniaid llawn amser wedi'u penodi i'w thair cyfadran, gyda ffigurau profiadol a oedd wedi'u denu gan gyrff academaidd eraill.[6]

Dilyswyd graddau prifysgol gan Wasanaeth Dilysu'r Brifysgol Agored, Prifysgol Strathclyde a Phrifysgol Aberdeen tan 2008, pan roddodd y Cyfrin Gyngor y gallu i UHI ddyfarnu graddau (tDAP).[7] Mae cyrsiau gyda theitlau o'r enw Tystysgrif Genedlaethol Uwch a Diploma Cenedlaethol Uwch yn cael eu cymeradwyo gan y sefydliad cyhoeddus Scottish Qualifications Authority.

Rhoddwyd statws prifysgol gan y Cyfrin Gyngor ym mis Chwefror 2011, a daeth UHI yn brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd.[8][9]

Dyddiadau allweddol golygu

 
Coleg cyfrwng Gaeleg Sabhal Mòr Ostaig a sefydlwyd yn 1973 ond sydd nawr yn rhan o'r brifysgol ffederal
1992 – Sefydlwyd Prosiect UHI
1996 - Cyllid Comisiwn y Mileniwm wedi'i ddyfarnu
1998 - Y Brifysgol Agored yn cadarnhau cefnogaeth i ddilysu gradd
2001 – Rhoddwyd statws sefydliad Addysg Uwch
2002 – Dyfarnwyd arian ymchwil
2005 – Cais i allu dyfarnu cymwysterau addysgu ar y cyd â'r Cyfrin Gyngor
2008 – Pŵer i ddyfarnu cymwysterau addysgu wedi’i roi
2010 - Penderfynir adleoli'r campws newydd i Fferm Beechwood
2013 - UHI wedi elwa ar ddyrannu lleoedd athrawon dan hyfforddiant,[10] gan ganiatáu i ddiploma ôl-raddedig mewn addysg (PGDE) gael ei gynnig, ac mae llwyddiant hyn wedi arwain at gynyddu nifer y lleoedd.[11]
2015 - UHI Inverness,agor capws Inverness. Athrofa gwerth £50m 18,500 sqm ar gyfer cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach yn cynnwys Gwyddor Bywyd, addysg ac ymchwil.[12]

Partneriaid golygu

 
Coleg Diwinyddol yr Ucheldiroedd yn Dingwall
  • Argyll College (sefydlwyd: 1997)[13]
  • Highland Theological College (sefydlwyd: 1974)[14]
  • Inverness College (sefydlwyd: 1960)[15]
  • Lews Castle College (sefydlwyd: 1953)[16]
  • Moray College (sefydlwyd: 1971)[17]
  • NAFC Marine Centre (sefydlwyd: 1988)[18]
  • North Highland College (sefydlwyd: 1951)[19]
  • Orkney College (sefydlwyd: 1995)[20]
  • Perth College (sefydlwyd: 1961)[21]
  • Sabhal Mòr Ostaig (sefydlwyd: 1973)[22]
  • SAMS (Scottish Association for Marine Science) (sefydlwyd: 1884)[23]
  • Shetland College (sefydlwyd: 1970)[24]
  • West Highland College (sefydlwyd: 2010)[25]

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Facts and figures". University of the Highlands and Islands > About. Cyrchwyd 2021-03-20.
  2. "About UHI". University of the Highlands and Islands. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
  3. "Facts and figures". The University of the Highlands and Islands. Cyrchwyd 12 Ionawr 2016.
  4. "Change in law could be the only way forward for UHI". Times Higher Education. 1 Medi 2000. Cyrchwyd 16 Mehefin 2014.
  5. Brown, Mike (4 Tachwedd 2003). "Homeward bound". The Guardian. Cyrchwyd 24 Mai 2016.
  6. "New UHI deans bring title bid closer". Times Higher Education. 15 Hydref 2004. Cyrchwyd 29 Mehefin 2014.
  7. "Highlands university moves step closer as key hurdle is cleared". The Scotsman. 26 Mehefin 2008. Cyrchwyd 29 Awst 2016.
  8. "UHI Millennium Institute gains full university status". Times Higher Education. 27 Ionawr 2011. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
  9. "Highlands and Islands' UHI wins university status". BBC News. 2 Chwefror 2011. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2014.
  10. "New course enables primary teachers to train in Highlands and Islands". University of the Highlands and Islands. 30 August 2013. Cyrchwyd 29 June 2014.
  11. "Teacher training places double at UHI". Scottish Government. 16 April 2014. Cyrchwyd 29 June 2014.
  12. "Home: Inverness Campus - Inverness Campus". www.invernesscampus.co.uk. Cyrchwyd 2020-03-06.
  13. Argyll College Faculty
  14. Highland Theological College
  15. Inverness College
  16. Lews Castle College
  17. Moray College
  18. NAFC Marine Centre
  19. North Highland College
  20. Orkney College
  21. Perth College Website
  22. Sabhal Mòr Ostaig
  23. SAMS
  24. Shetland College
  25. West Highland College
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato