Irene (ymerodres)
Ymerodres Fysantaidd rhwng 797 a 802 oedd Irene, Groeg: Ειρήνη, Eirēnē (c. 752 – 9 Awst, 803). Defnyddiai'r teitl basileus (βασιλεύς), "ymerawdwr", yn hytrach na basilissa (βασίλισσα), "ymerodres."
Irene | |
---|---|
Ganwyd | c. 752 Athen |
Bu farw | 9 Awst 803 Lesbos |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, rhaglyw, ymerodres Gydweddog |
Dydd gŵyl | 7 Awst |
Priod | Leo IV the Khazar |
Plant | Konstantinos VI |
Llinach | Isaurian dynasty |
Ganed Irene yn Athen, a daethpwyd a hi i Gaergystennin fel merch amddifad gan yr ymerawdwr Cystennin V. Yn 769 priododd ei fab, Leo IV. Yn 771 cafodd fab, a ddaeth yn ymerawdwr fel Cystennin VI pan fu farw ei gŵr yn 780. Oherwydd ei oed, gweithredai Irene fel rheolwr y deyrnas.
Llwyddodd i orchfygu nifer o wrthryfeloedd yn ei herbyn, ac adferodd yr arfer o ddefnyddio delwau neu eiconau mewn addoliad. Bu'n ymladd yn erbyn y Ffranciaid, a gipiodd Istria a Benevento yn 788, ac yn erbyn y Califfiaid Abbasaidd Al-Mahdi a Harun al-Rashid.
Wrth i Gystennin VI ddod yn hŷn, daeth yn anfodlon fod y grym yn nwylo ei fam. Bu gwrthryfel yn 790, pan gyhoeddodd milwyr y gard Armenaidd Cystennin fel unig ymerawdwr. Yn 797 cymerodd Irene ei mab yn garcharor, a'i ddallu. Bu farw o'i anafiadau rai dyddiau'n ddiweddarach.
Nid oedd Pab Leo III yn barod i gydnabold merch fel rheolwr, ac yn 800 coronodd Siarlymaen fel Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Gwaethygodd hyn y berthynas rhwng yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred, er y dywedir i Irene gynnig priodi Siarlymaen.
Yn 802, bu cynllwyn yn ei herbyn, a daeth Nikephoros I yn ymerawdwr. Alltudiwyd Irene i ynys Lesvos, lle gorfodwyd hi i ennill ei chynhaliaeth trwy nyddu. Bu farw y flwyddyn wedyn. Ystyrir hi yn sant gan yr Eglwys Uniongred.