Is-etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2008

Cynhaliwyd Is-etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2008 ar gyfer ward Rheidol, Aberystwyth, ar 10 Gorffennaf.[1]

Is-etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2008

Ymddeolodd Eric John Griffiths yn fuan wedi iddo gael ei ethol yn dilyn y rhybydd a dderbyniodd gan yr heddlu am "drosedd rhywiol". Gorfodwyd iddo roi ei enw ar y cofrestr troseddwyr rhywiol.[2]

Bu ymryson pan wrthodwyd cais Maer Aberystwyth ar y pryd, Lorrae Jones-Southgate, i fod yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr is-etholiad. Dywedodd na allai gario'm mlaen yn ei swydd fel Maer os nad oedd ganddi gefnogaeth ei phlaid, a hithau eisoes wedi cynychioli'r ward ar gyngor y dref ers pedair mlynedd.[3]

Cyhuddwyd Plaid Cymru o chwarae'n chwerw gan y Democratiaid, pan gyfeirwyd at ymddiswyddiad Griffiths, y diffyg hyder yn Jones-Southgate, a'r ffaith fod yr ymgeisydd Democrataidd yn gweithio yn Llundain ar y pryd.[2]

Yn dilyn yr etholiadau, dyma oedd sefyllfa'r cyngor:

Crynodeb Canlyniadau'r Is-etholiad golygu

Ardal Aberystwyth: Rheidol
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Aled Davies 271 40.09
Democratiaid Rhyddfrydol Alexander James Dauncey 252 37.28
Annibynnol Carol Ann Kolczak 98 14.50
Llafur Rhichard Anthony Boudier 36 5.33
Ceidwadwyr Luke William Ashley Evetts 17 2.51
Mwyafrif 19 2.81
Y nifer a bleidleisiodd 676
Plaid Cymru yn disodli Democratiaid Rhyddfrydol Gogwydd

Ffynonellau golygu