Isabel Marshal
Iarlles o Loegr oedd Isabel Marshal (9 Hydref 1200 – 17 Ionawr 1240). Roedd hi'n wraig i Gilbert de Clare, 4ydd Iarll Hertford a 5ed Iarll Caerloyw a Richard, Iarll 1af Cernyw (mab y Brenin John o Loegr). Gyda Gilbert, roedd hi'n hen nain i'r Brenin Robert Bruce o'r Alban.
Isabel Marshal | |
---|---|
Ganwyd | 9 Hydref 1200, 1200 Castell Penfro |
Bu farw | 17 Ionawr 1240, 1240 o anhwylder ôl-esgorol Berkhamsted Castle |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Tad | William Marshal, Iarll 1af Penfro |
Mam | Isabel de Clare |
Priod | Richard, iarll 1af Cernyw, Gilbert de Clare |
Plant | Henry of Almain, Amice de Clare, Richard de Clare, William de Clare, Agnes de Clare, Gilbert de Clare, John of Cornwall, Isabella of Cornwall, Nicholas of Cornwall, Isabella of Gloucester and Hertford |
Teulu
golyguWedi ei geni yng Nghastell Penfro, Isabel oedd seithfed plentyn, ac ail, merch William Marshal, Iarll 1af Penfro a Isabel de Clare. Roedd ganddi 4 chwaer a 5 brawd, a oedd yn cynnwys yr 2il, 3ydd, 4ydd, 5ed a'r 6ed Iarll Penfro; bu pob un o'i frodyr marw heb etifedd gwrywaidd dilys, gan basio'r teitl ymlaen i'r brawd nesaf yn llinell. Wrth i'w brawd olaf i ddal teitl Iarll Penfro marw heb etifedd cyfreithlon cafodd y teitl ei basio i lawr drwy deulu chwaer iau Isabel, Joan. Priododd ei chwiorydd, Ieirll Norfolk, Surrey, a Derby; Arglwydd y Fenni a'r Arglwydd Swanscombe.
Priodas cyntaf
golyguAr ei 17eg pen-blwydd, priododd Isabel Gilbert de Clare, 4ydd Iarll Hertford a 5ed Iarll Caerloyw, a oedd yn 20 mlynedd yn hŷn na hi, yn Abaty Tewkesbury. Roedd y briodas yn eithriadol hapus, er gwaetha'r gwahaniaeth oedran. Bu iddynt chwech o blant:
- Agnes de Clare (g. 1218)
- Amice de Clare (1220-1287), a briododd y 6ed Iarll Dyfnaint
- Richard de Clare, yn y 6ed Iarll Hertford (1222-1262)
- Isabel de Clare (2 Tachwedd 1226– 10 Gorffennaf 1264), a phriododd Robert de Brus, 5ed Arglwydd Annandale; trwy hyn daeth Isabel yn hen nain i Robert Bruce
- William de Clare (1228-1258)
- Gilbert de Clare (b. 1229), offeiriad
Aeth Gilbert gŵr Isabel i ryfela yn Llydaw ym 1229, ond bu farw ar 25 hydref 1230 ar ei ffordd yn ôl i Penrose, yn y ddugaeth. Cafodd ei gorff ei gludo cartref drwy Plymouth a Cranborne, i Tewkesbury, lle cafodd ei gladdu yn yr abaty.
Ail briodas
golyguRoedd Isabel yn wraig weddw ifanc, dim ond 30 mlwydd oed. Roedd hi wedi profi ei gallu i gael plant ac i esgor ar feibion iach; fel y dangoswyd trwy fodolaeth ei chwe phlentyn ifanc, tri ohonynt yn feibion. Dyma, yn fwyaf tebygol, oedd y rheswm dros gynnig o briodas gan Richard, Iarll 1af Cernyw, a phaham bod Isabel yn derbyn ei gynnig, er gwaetha'r ffaith bod ei gŵr wedi bod yn farw am bum mis yn unig. Priododd y ddau ar 30 Mawrth 1231 yn Eglwys Fawley. Roedd Richard, brawd y Brenin Harri, yn anfodlon efo'r briodas gan ei fod wedi bod yn ceisio trefnu priodas fwy manteisiol ar gyfer yr Iarll. Roedd Isabel a Richard yn dod ymlaen yn dda, er bod gan Richard enw drwg am fod yn ferchetwr ac roedd yn hysbys ei fod yn cadw meistresi yn ystod y briodas. Bu iddynt bedwar o blant, ond bu farw tri ohonynt yn y crud.
- John o Gernyw (31 Ionawr 1232 – 22 Medi 1233), a aned ac a fu farw yn Marlow, swydd Buckingham, ac a gladdwyd yn Abaty Reading
- Isabella o Gernyw (9 Medi 1233 – 10 Hydref 1234), a aned ac a fu farw yn Marlow, swydd Buckingham, ac a gladdwyd yn Abaty Reading
- Henry o Almain (2 Tachwedd 1235 – 13 Mawrth 1271), cafodd ei llofruddio gan ei gefndryd Guy a Simon de Montfort, ac a gladdwyd yn Abaty Hailes.
- Nicholas o Gernyw (g. & m. 17 Ionawr 1240 yng Nghastell Berkhamsted ), bu farw yn fuan ar ôl ei eni, ac a gladdwyd yn Abaty Beaulieu gyda'i fam.
Marwolaeth a chladdedigaeth
golyguBu Isabel farw o fethiant yr afu, wrth esgor ar ei phlentyn olaf, ar 17 Ionawr 1240, yng Nghastell Berkhamsted. Roedd hi'n 39 mlwydd oed.
Wrth farw gofynodd am gael ei chladdu gyda'i gŵr cyntaf yn Abaty Tewkesbury, ond mynodd Richard ei chladdu yn Abaty Beaulieu gyda ei fab bach yn lle hynny[1]. Fel ystum duwiol, fodd bynnag, anfonodd ei chalon, mewn casgen arian i Tewkesbury.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Find a grave - Isabel Marshal adalwyd 20 Mai 2018
Ffynonellau
golygu- Cokayne, G.E. (2000). The Complete Peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, Extant, Extinct or Dormant. Alan Sutton. cyfrol II, tudalen 359 & cyfrol III, tudalen 244
- Lundy, Darryl. "The Dictionary of National Biography". The Peerage.Nodyn:Unreliable source?
- Denholm-Young, Noel. Richard of Cornwall, 1947