Isabelle Axelsson

Mae Isabelle Axelsson (ganwyd 2000/2001[1]) yn ymgyrchydd hinsawdd Swedaidd o Stockholm, sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder newid hinsawdd.[2][3] Yn Ebrill 2021 roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Stockholm.[4]

Isabelle Axelsson
Isabelle Axelsson 2023
Ganwyd14 Ionawr 2001 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata

Bu'n drefnydd Fridays for Future (Gwener y Dyfodol) yn Sweden ers Rhagfyr 2018.[5][6] Ddiwedd Ionawr 2020, mynychodd Fforwm Economaidd y Byd yn Davos ynghyd ag ymgyrchwyr hinsawdd eraill, megis Greta Thunberg, Luisa Neubauer, Loukina Tille a Vanessa Nakate.[7][8]

Cyfranodd i lyfr o'r enw "Gemeinsam für die Zukunft - Fridays For Future und Scientists For Future: Vom Stockholmer Schulstreik zur weltweiten Klimabewegung" (Cymraeg: Gyda'n gilydd ar gyfer y dyfodol - Gwener y Dyfodol a gwyddonwyr ar gyfer y dyfodol: O streic ysgolion Stockholm i'r mudiad hinsawdd byd-eang). Yn y llyfr, disgrifiodd y mudiad Gwener y Dyfodol, er mwyn rhoi persbectif i'r darllenydd gan rywun o fewn y mudiad, ar gof a chadw.[9]

Mae gan Axelsson awtistiaeth.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Young climate activist fears words not action at Davos". Reuters (yn Saesneg). 24 Ionawr 2020.
  2. "Isabelle Axelsson och Sophia Axelsson talar för Greta Thunberg | Nordisk Samarbejde". norden.org (yn Swedeg). Nordic Council. Cyrchwyd 2020-01-28.
  3. Cotton, Johnny (24 Ionawr 2020). "Young climate activist fears words not action at Davos". Reuters. Cyrchwyd 2020-01-28.
  4. Cyfri LinckedIn[dolen farw]; adalwyd 6 Mai 2021.
  5. Rydberg, Jenny (23 Mai 2019). "Klimatstrejk i över hundra länder". ekuriren.se (yn Swedeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-09. Cyrchwyd 2020-01-28.
  6. Annebäck, Karin (20 Awst 2019). "Klimatfrågan har inte tagits på allvar". ETC (yn Swedeg). Cyrchwyd 2020-01-28.
  7. Walker, Darren (27 Ionawr 2020). "Charity won't fix inequality. Only structural change will". The Guardian. Cyrchwyd 2020-01-28.
  8. Dahir, Ikran (24 Ionawr 2020). "A Ugandan Climate Activist Was Cropped Out Of A News Agency Photo Of Greta Thunberg At Davos". BuzzFeed News. Cyrchwyd 2020-01-28.
  9. transcript. "Axelsson, Isabelle". transcript Verlag (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
  10. "Girl power goes green: Teens strike for action on climate change". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 April 2021.

Dolenni allanol

golygu