Ismail Kadare
Nofelydd, bardd, ac ysgrifwr o Albania yn yr iaith Albaneg oedd Ismail Kadare (28 Ionawr 1936 - 1 Gorffennaf 2024).[1]
Ismail Kadare | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1936 Gjirokastra |
Bu farw | 1 Gorffennaf 2024 o trawiad ar y galon Mother Teresa Hospital, Tirana |
Dinasyddiaeth | Albania, Ffrainc, Cosofo |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, cyfieithydd, llenor |
Swydd | Aelod o Senedd Albania |
Adnabyddus am | Gjenerali i ushtrisë së vdekur, The Castle, Chronicle in Stone, Broken April, The Three-Arched Bridge, The File on H., The Palace of Dreams |
Prif ddylanwad | Italo Calvino |
Priod | Helena Kadare |
Plant | Besiana Kadare |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Herder, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Gwobr Jeriwsalem, Gwobr Ryngwladol Nonino, Commandeur des Arts et des Lettres, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Order of the National Flag, Honor of Nation Order, doctorat honoris causa de l'université Grenoble-III, Q126416283 |
llofnod | |
Ganed ef yn Gjirokastër, Teyrnas Albania, yn fab i weithiwr yn y swyddfa bost. Astudiodd ym Mhrifysgol Tirana a chychwynnodd ar ei yrfa lenyddol drwy gyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1958 i astudio yn Athrofa Llên Fyd Gorki ym Moscfa, a dychwelodd i Albania ym 1960 i weithio yn newyddiadurwr. Enillodd enw rhyngwladol am ei nofel gyntaf, Gjenerali i ushtrisë së vdekur ("Cadfridog y Fyddin Farw", 1963), sydd yn ymwneud â chadfridog ac offeiriaid o'r Eidal yn chwilio am gyrff milwyr a fu farw yn Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysgrifennodd sawl nofel hanesyddol, gan gynnwys Kështjella ("Y Castell", 1970), am wrthryfel Skanderbeg yn erbyn yr Otomaniaid yn y 15g, ac Ura me tri harqe ("Y Bont Deirbwa", 1978)
Ffoes Kadare i Ffrainc ym 1990.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Ismail Kadare. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2020.