Ishmael (sant)
sant Cymreig o'r 6g
(Ailgyfeiriad o Ismel)
Sant o Gymru oedd Ishmael, hefyd Ismel, Isfael ac amrywiadau eraill (fl. 6g). Dethlir ei ddydd gŵyl yn flynyddol ar 16 Mehefin.
Ishmael | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Armorica |
Bu farw | 6 g Dyfed |
Man preswyl | Sir Benfro |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 16 Mehefin |
Bywgraffiad
golyguDywedir ei fod yn nai i Sant Teilo ac yn frawd i Tyfei ac Oudoceus. Roedd ei dad, Buddig, yn dywysog o Armorica - Lydaw a alltudiwyd i Ddyfed. lle priododd Anauved, chwaer Teilo. Dywedir hefyd ei fod un un o ddisgyblion Dewi, ac iddo ei olynu yn Nhyddewi. Ceir nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn Sir Benfro, y rhan fwyaf yn hen gantref Rhos, ac un yn Sir Gaerfyrddin, sef Llanismel. Y bwysicaf oedd eglwys Llanisan-yn-Rhos, ar lan Milffwrdd, oedd yn un o saith esgobdai Dyfed.
Llefydd a enwyd ar ei ôl
golyguRhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Sant Ismael | 51°50′26″N 5°00′38″W / 51.8406°N 5.01044°W | Camros | Q17741554 | |
2 | Eglwys Sant Ismael | 51°44′04″N 4°57′57″W / 51.734546°N 4.9659316°W | Rhosfarced | Q29498829 | |
3 | Eglwys Sant Ismael | 51°48′43″N 5°02′15″W / 51.811852°N 5.0376094°W | Camros | Q29502110 | |
4 | Eglwys Sant Ismael | 51°47′28″N 4°56′46″W / 51.791236°N 4.9462004°W | Uzmaston, Boulston a Slebets | Q29505561 | |
5 | Llanisan-yn-Rhos | 51°43′19″N 5°08′10″W / 51.722°N 5.136°W | Sir Benfro | Q3403708 | |
6 | Llanishmel | 51°44′42″N 4°22′12″W / 51.745°N 4.37°W | Sir Gaerfyrddin | Q7593398 |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.