Rhosfarced

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Rhosfarced neu Rosemarket[1] (Saesneg: Rosemarket). Saif yn ne-orllewin y sir, i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberdaugleddau. Daw'r enw'r pentref o enw'r cantref canoloesol, Rhos, a'r gair Saesneg market ('marchnad').[2] Cyfeiria hyn at y farchnad a sefydlwyd yma yn y 12g gan Farchogion Sant Ioan o Slebets.

Rhosfarced
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7356°N 4.9992°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000951 Edit this on Wikidata
Cod OSSM929084 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Cysegrir yr eglwys i Sant Ismael. Y mwyaf nodedig o hynafiaethau'r ardal yw colomendy canoloesol, sydd a lle i dros 200 o nythod. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 454.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[4]

Tafarn yng nghanol Rhosfarced


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosfarced (pob oed) (613)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosfarced) (95)
  
16%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosfarced) (437)
  
71.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Rhosfarced) (77)
  
30.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. B. G. Charles, The Placenames of Pembrokeshire (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol, 1992), tud. 628
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]