Itanagar
Prifddinas talaith Arunachal Pradesh yng ngogledd-ddwyrain India yw Itanagar (Hindi: ईटानगर). Gorwedd Itanagar yn rhagfryniau'r Himalaya. Yn weinyddol mae'n rhan o ardal Papum Pare. Mae ganddi boblogaeth o 34,970.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 59,490 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Papum Pare district |
Gwlad | India |
Uwch y môr | 750 ±1 metr |
Gerllaw | Dikrong River |
Yn ffinio gyda | North Lakhimpur |
Cyfesurynnau | 27.1°N 93.62°E |
Cod post | 791111 |
Enwir y ddinas ar ôl amddiffynfa hanesyddol Caer Ita, sy'n dyddio o'r 15g. Mae atyniadau eraill yn cynnwys Llyn Ganga (Gyakar Sinyi) a theml Fwdhydd Buddha Vihar, a gysegrwyd gan y Dalai Lama.
Mae gwasanaeth bws yn cysylltu Itanagar a Guwahati, prifddinas Assam.