Ixquick

(Ailgyfeiriad o IxQuick)

Peiriant metachwilio yw Ixquick, sy'n gweithio trwy harnesu sawl peiriant chwilio arall ar y rhyngrwyd. Lleolir Ixquick yn Ninas Efrog Newydd, UDA a'r Iseldiroedd ac mae wedi cyflenwi 120 miliwn o chwiliadau gwe ers 2004.[1] Sefydlwyd Ixquick gan David Bodnick yn 1998, yn Efrog Newydd. Ers 2000 mae'n perthyn i gwmni Iseldiraidd, sef Surfboard Holding BV.[2]

Logo Ixquick

Mae Ixquick yn dangos yn nodi'r deg canlyniad uchaf a geir trwy sawl peiriant chwilio trwy roi seren i ddynodi faint o beiriannau chwilio sy'n rhoi canlyniadau a'u trefnu yn ôl nifer y sêr. Gellir chwilio gyda Ixquick mewn 17 o ieithoedd, gyda fersiwn o'r peiriant ei hun ar gyfer pob un ohonynt (does dim gwasanaeth Cymraeg eto).

Preifatrwydd golygu

Mae'r peiriannau chwilio mawr fel Google i gyd yn cadw manylion personol heb wybod i'r defnyddiwr ac yn barod i'w trosglwyddo i gwmnïau neu hyd yn oed i lywodraethau. Mae Ixquick wedi chwarae rhan arloesol yn y symudiad i gael diogelu preifatrwydd defnyddwyr peiriannau chwilio ar y we (gweler hefyd Scroogle) ac erbyn heddiw mae'n un o'r peiriannau diogelach.

Ers 27 Mehefin 2006 dydy Ixquick ddim yn cadw manylion personol defnyddwyr.[3] Ceiff cyfeiriadau IP a manylion eraill eu dileu o fewn 48 awr ar ôl chwilio.[4] Yn ogystal dydy Ixquick ddim yn rhannu gwybodaeth bersonol o unrhyw fath gyda pheiriannu chwilio eraill na chwaith gyda noddwyr masnachol canlyniadau chwilio.[5]

Enillodd Ixquick y Sêl Breifatrwydd Ewropeaidd gyntaf (gweler EuroPriSe) am ei ymarferion preifatrwydd ar 14 o Orffennaf, 2008.

Ers y 29fed o Ionawr 2009 dydy Ixquick ddim yn cofnodi cyfeiriadau IP defnyddwyr o gwbl.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ixquick Search metamend.com Archifwyd 2012-03-29 yn y Peiriant Wayback..
  2. "New Ixquick International Search Engine Unveiled hventure.nl". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-27. Cyrchwyd 2009-06-04.
  3. Ixquick.com Eliminates 'Big Brother'
  4. Ixquick: Privacy Q&A
  5. "Ixquick: Privacy Policy"
  6. www.wislawjournal.com: "Search engines besides Google Who knew", Wisconsin Law Journal 2009-05-05

Dolen allanol golygu