János Arany
Llenor o Hwngari oedd János Arany (Hwngareg: Arany János) (2 Mawrth 1817 – 22 Hydref 1882), a oedd yn adnabyddus fel newyddiadurwr, awdur, bardd, a chyfieithydd. Mae wedi cael ei ddigrifio fel "Shakespeare y faled" – cyfansoddodd dros 40 baled sydd wedi cael eu cyfieithu i dros 50 o ieithoedd. Ef hefyd yw awdur tair cyfrol y Toldi a'r gerdd ramantaidd A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru').
János Arany | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1817 Salonta |
Bu farw | 22 Hydref 1882 Budapest |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, llenor, newyddiadurwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Toldi trilogy |
Priod | Julianna Ercsey |
Plant | Julianna Arany, László Arany |
Gwobr/au | Urdd Sant Steffan o Hwngari |
llofnod | |
Bywyd
golyguGanwyd y llenor yn Nagyszalonta, tref Hwngariadd ar y pryd sy'n rhan o Rwmania heddiw. Dysgodd Almaeneg, Ffrangeg a Lladin. Yn 1845, enillodd gystadleuaeth lenyddol y Kisfaludy Társaság am ei gerdd "Az elveszett alkotmány" ('Y Cyfansoddiad Coll'). Ar ôl cyhoeddi ei waith mawr Toldi, daeth yn gyfaill i Sándor Petőfi. Cafodd marwolaeth ei gyfaill yn Chwyldro Hwngaraidd 1848 effaith fawr arno fel gwladgarwr a democrat.
Gweithiodd fel athro yn Nagykőrös, lle enwir yr amgueddfa leol ar ei ôl. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Gwyddoniaeth Hwngari yn 1858 a daeth yn ysgrifennydd cyffredinol yr academi yn 1865. Bu'n gyfarwyddwr etholedig y Gymdeithas Kisfaludy hefyd, cymdeithas lenyddol fwyaf Hwngari.
Bu farw Arany yn Budapest ar 22 Hydref 1882.
Gwaith llenyddol
golyguUn o'r cerddi enwocaf gan y bardd yw "A Walesi Bárdok" ('Beirdd Cymru'), cerdd wladgarol ramantaidd sy'n seiliedig ar yr hanesyn am gyflafan y beirdd yng Nghymru gan Edward I o Loegr. Ysgrifennodd Arany y gerdd pan ymwelodd Franz Joseph, Ymerodr Awstria, â Hwngari ar ôl iddo gorchyfygu Chwyldro Hwngaraidd 1848. Yn wreiddiol, roedd Arany wedi cael ei gomisiynu i gyfansoddi cerdd o fawl i'r ymerodr. Ond yn y gerdd mae Arany yn defnyddio'r hanesyn am feirdd Cymru i ddangos y modd anghyfiawn y trinwyd Hwngari a'r Hwngariaid gan Ymerodraeth Awstria. Daeth yn gerdd adnabyddus iawn yn Hwngari. Mae diolch i'r gerdd hon yn anad dim fod yr Hwngariaid yn gwybod am Gymru.