John Edward Daniel

athro coleg ac arolygydd ysgolion
(Ailgyfeiriad o J.E. Daniel)

Diwinydd a darlithiwr Cymreig oedd John Edward Daniel neu J. E. Daniel (26 Mehefin 1902 - 11 Chwefror 1962). Roedd yn un o aelodau cynnar Plaid Cymru a bu'n gadeirydd y blaid am gyfnod.

John Edward Daniel
Llun o J E Daniel gan ei fab, John Illtud Daniel
Ganwyd26 Mehefin 1902 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1962 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdarlithydd Edit this on Wikidata

Ganed Daniel ym Mangor ac addysgwyd ef yn Ysgol Friars cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd yn y Literae Humaniores yn 1923 ac mewn Diwinyddiaeth yn 1925. Daeth yn Gymrawd o Goleg Bala-Bangor, gan ddod yn Athro yno ar 28 Gorffennaf 1926 yn dilyn marwolaeth Dr Thomas Rees. Ymhlith ei fyfyrwyr yno roedd R. Tudur Jones.

Safodd bedair gwaith fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru. Bu'n is-gadeirydd rhwng 1931 a 1935, ac olynodd Saunders Lewis fel cadeirydd yn 1939, swydd a ddaliodd hyd Awst 1943. Yn 1946 apwyntiwyd ef yn arolygydd ysgolion. Bu farw o ganlyniad i ddamwain ffordd ger Helygain, Sir Fflint.

Bedd J E a Catherine Daniel ym Mynwent Newydd Bangor
Bedd J E a Catherine Daniel ym Mynwent Newydd Bangor

Llyfrau

golygu
  • Dysgeidiaeth yr Apostol Paul (1933)