Gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd y Parchedig John Elwyn Jenkins (bu farw 30 Rhagfyr 2013[1] yn 80 oed).[2]

J. Elwyn Jenkins
Ganwyd1933 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 2013 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganwyd ym Mhen-twyn ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio yng nglofa Mynydd Mawr ger y Tymbl. Chwaraeodd rygbi i Lanelli ac Abertawe (1954–6), a chwaraeodd i Gymru yn erbyn y Llewod ar 22 Hydref 1955. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Trefeca ac yng Ngholeg Diwinyddol Unedig Aberystwyth. Roedd yn weinidog yn gyntaf yng nghymunedau Moriah, Brynaman a Brynllynfell, Cwmllynfell, ac yna'n weinidog y Tabernacl yn Aberystwyth o 1970 hyd 1998, ac yna yn Llanbedr Pont Steffan.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Marwolaeth John Elwyn Jenkins (11 Ionawr 2014). Adalwyd ar 16 Ionawr 2014.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Rees, D. Ben (14 Ionawr 2014). Obituary: The Rev J Elwyn Jenkins. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ionawr 2014.