Impatiens glandulifera
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Balsaminaceae
Genws: Impatiens
Rhywogaeth: I. glandulifera
Enw deuenwol
Impatiens glandulifera
John Forbes Royle

Planhigyn blodeuol â dwy had-ddeilen (neu ddeugotyledon) yw Jac y neidiwr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Balsaminaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Impatiens glandulifera a'r enw Saesneg yw Indian balsam.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Jac y Neidiwr, Cap Dur Heddwas, Ffromlys Chwarennog, Penwisg Ddur Heddwas.

Aelod arall o'r un teulu yw Betsan brysur.

Hanes golygu

Nid yw’r enw Jac y neidiwr yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi. O lle daeth yr enw. Does bosib ei fod yn hen iawn gan na fu’r planhigyn yma fwy na chanrif, os hynny. Fe’i hadwaenir hefyd fel Impatiens glandulifera, policeman's helmet, neu Indian Balsam. Mae 'na gofnod o'r enw hwn yn Planhigion Cymru a'r Byd[2]. Clywais yr enw hefyd gan Dafydd Davies ac eraill o'r de, ynghyd â fersiwn arall ddifyr 'Jac y jwmper' yn ardal Llanelli / Cwm Gwendraeth (Jacob Davies).

Paentiwyd y llun [1] ym Mwletin 16 tudalen 3 gan Gwenddolen Massey cyn y Rhyfel Gyntaf. Yn groes i’w harfer ni chafodd ei labelu ganddi. Tybed a oedd y planhigyn yn rhy newydd ym Môn iddi ei adnabod? Yn ddios llun Jac y Neidiwr Impatiens glandulifera ydyw. Cafodd ei gyflwyno i Brydain fel planhigyn gardd yn 1839 cyn cael ei gofnodi yn y gwyllt am y tro cyntaf yn 1855 ym Middlesex. Ganrif yn ddiweddarach cynyddodd yn aruthrol. Mae'n ddiddorol bod chwynyn estron a phlagus yn ein hoes ni yn bresennol yn ôl pob golwg ym Môn pan oedd Gwenddolen Massey yn gweithio.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. D. Hayes (1995), Gwasg Maes Onn
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: