Jack Jenkins
Roedd John "Jack" Charles Jenkins (19 Ebrill, 1880 - 1 Rhagfyr, 1971) [1] yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig oedd yn chwarae rygbi clwb ar gyfer Casnewydd a Chymry Llundain. Enillodd dim ond un cap i Gymru ym 1907 ond bu'n wynebu Seland Newydd a De Affrica ar lefel sirol gyda Middlesex a Sir Fynwy.
Jack Jenkins | |
---|---|
Jack Jenkins yn 1905 | |
Ganwyd | 19 Ebrill 1880 Trecelyn |
Bu farw | 1 Rhagfyr 1971 Hounslow |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Trecelyn |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Hanes personol
golyguGaned Jenkins yn Nhrecelyn ym 1880. Cafodd ei addysg yn Ysgol Long Ashton, Bryste cyn ymaelodi a'r Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst.[2] Fe'i comisiynwyd i Gyffinwyr De Cymru yn 18 oed, ond yn 1903 ymddiswyddodd o'r Fyddin Brydeinig a dilynodd gwrs cyfrifeg. Ym 1908, ymunodd â Llu Tiriogaethol Sir Fynwy, a oedd newydd ei ffurfio. Erbyn 1911 cafodd ei ddyrchafu i safle Uwchgapten, a phan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei anfon i Ffrainc fel Is-gyrnol, yn arwain 2il Fataliwn Catrawd Sir Fynwy.[3]
Priododd Jenkins â Helena Leigh (née Roose) chwaer y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymreig Leigh Richmond Roose.[4][5] Bu mab Jenkins, C R Jenkins yn chwarae rygbi clwb ar gyfer nifer o dimau, gan gynnwys gwasanaethu fel capten tîm Gogledd yr Iwerddon yn ystod tymor 1933/34; ac fel ei dad, wynebodd dîm teithiol De Affrica ym 1931 gan gynrychioli Ulster.
Gyrfa rygbi
golyguChwaraeodd Jenkins rygbi yn Ysgol Long Ashton i ddechrau, a byddai'n cynrychioli timau lleol Aberpennar a Threcelyn yn ddiweddarach. Erbyn 1901 roedd yn chwarae i dîm rygbi dosbarth cyntaf Casnewydd, gan ymddangos i'r tîm cyntaf dros gyfnod o chwe thymor gan wneud 61 ymddangosiad.[6] Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd Jenkins lawer o'i amser yn Lloegr, a daeth yn aelod rheolaidd o dîm alltud Cymry Llundain, bu hefyd yn chware i dimau rygbi Rosslyn Park a Middlesex County. Ym 1905, wynebodd Jenkins ei wrthwynebwyr rhyngwladol cyntaf, fel rhan o dîm Middlesex i wynebu'r Crysau Duon [4] yn Stamford Bridge, yn ystod taith dramor gyntaf Seland Newydd. Collodd Middlesex y gêm yn drwm, 34-0.
Yn ystod tymor 1906-1907, bu Jenkins yn wynebu tîm teithiol De Affrica ar dri achlysur. Yn y cyfarfod cyntaf, roedd Jenkins yn chwarae i Middlesex County, gan golli 9-0 i'r Springboks yn Richmond. Ar 22 Tachwedd 1906, daeth Jenkins i Sir Fynwy wynebu Morgannwg mewn treial Cymreig ar gyfer y gêm ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica.[7] Dyfarnwyd pedwar cap newydd gan dîm Cymru, sef Jenkins, Dick Thomas o Aberpennar, John Dyke o Benarth a Johnnie Williams o Gaerdydd. Yn y treial, o'r capiau newydd, dim ond Williams a wnaeth argraff fawr, nid oedd yr un o'r tri chwaraewr arall yn dangos gallu mawr, ond roeddent yn 'rhagori ar unrhyw un o'u cystadleuwyr heb eu capio'.[8] Ar 1 Rhagfyr 1906 enillodd Jenkins ei unig gap pan chwaraeodd ar faes San Helen Abertawe gan wynebu'r Springboks. Enillodd De Affrica'r gêm yn gyfforddus, gyda llawer o'r bai am y golled yn cael ei rhoi ar y chwaraewyr blaen. Cafodd Jenkins a Williams eu cyhuddo o 'fethu sgrymio'.[9]
Er gwaethaf y golled, roedd Jenkins yn rhan o dîm Sir Fynwy a oedd yn wynebu'r un tîm o Dde Affrica ar Ŵyl San Steffan 1906. Roedd Jenkins, ynghyd â'r capten George Travers, yn un o ddim ond dau chwaraewr â phrofiad rhyngwladol,[10] ac roedd y tîm wedi gwanhau ymhellach ar ôl i Gasnewydd wrthod rhyddhau eu chwaraewyr ar ôl dadl dros y lleoliad. Roedd De Affrica yn drech na Sir Fynwy, gan ennill 17-0, a rhoddodd Jenkins ei hun cyfle i'r gwrthwynebwyr i sgorio'r ail gais ar ôl cic gwan.[11]
Tua diwedd ei yrfa rygbi, daeth Jenkins yn fwy cysylltiedig â Chymry Llundain, ac yn nhymor 1910/11 rhoddwyd capteniaeth y clwb iddo. Chwaraeodd ran fawr hefyd fel aelod o bwyllgorau. Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus rhwng 1908 a 1911.[12] Yn 1911 roedd yn un o dri aelod a ysgrifennodd rheolau aelodaeth clwb.[13] Wedi dychwelyd o'i ddyletswydd filwrol yn Ffrainc ymddiswyddodd Jenkins o'r clwb ar ôl canfod bod ymddiriedolwyr y clwb wedi gwerthu'r rhydd-ddaliad ar faes Heathfield, cartref Cymry Llundain.[14] Roedd record Jenkins yn Llundain yn drawiadol, yn ymestyn dros 12 mlynedd a 200 o gemau.[15]
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [16]
- De Affrica 1906
Llyfryddiaeth
golygu- Billot, John (1974). Springboks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
- Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
- Jones, Stephen; Paul Beken (1985). Dragon in Exile, The Centenary History of London Welsh R.F.C. London: Springwood Books. ISBN 0-86254-125-5.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jack Jenkins player profile Scrum.com
- ↑ "J C JENKINS Newport - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-03-18. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ "LOCAL COMMISSIONS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-03-11. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ 4.0 4.1 Jenkins (1991), tud 81.
- ↑ "HOLT; WEDDING OF MISS H. L. ROOSE - Cheshire Observer". James Albert Birchall. 1903-10-03. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ Jack Jenkins Archifwyd 2011-06-17 yn y Peiriant Wayback blackandambers.co.uk
- ↑ Billot (1974), tud 36-37.
- ↑ "New Welsh Caps - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-11-24. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ "LIEUT COLONEL J C JENKINS - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1914-10-17. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ Billot (1974), tud 45.
- ↑ Billot (1974), tud 46.
- ↑ "LONDON WELSH CLUB - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-08-03. Cyrchwyd 2019-07-22.
- ↑ Jones (1985), tud 56.
- ↑ Jones (1985), tud 57.
- ↑ Jones (1985), tud 312.
- ↑ Smith (1980), tud 467.