Yn ôl yr Hen Destament, un o feibion Noa oedd Jaffeth (hefyd Japheth ac weithiau Iaffeth yn Gymraeg : IPA ˈdʒeɪfɪθ, Hebraeg יפת, Groeg Ιάφεθ, Iapheth, Lladin Iafeth neu Iapetus, Arabeg يافث). Yn y traddodiad Islamaidd cyfeirir ato gan amlaf fel Yafeth ibn Nuh (Jaffeth fab Noa). Ceir ei hanes yn negfed bennod Llyfr Genesis.

Yn y rhan fwyaf o'r ffynonellau, disgrifir Jaffeth fel mab ieuengaf Noa, ond mai traddodiadau eraill yn ei wneud y mab hynaf.

Chwedl meibion Jaffeth golygu

Mae sawl awdur yn y gorffennol - a heddiw hefyd yn achos pobl sy'n credu fod yr achau a geir yn Genesis yn ddilys - wedi derbyn mai Jaffeth yw cyndad pobloedd Ewrop, a hynny ar sail Genesis 10:5 lle dywedir i feibion Jaffeth fudo i "ynysoedd y Cenhedloedd," a dderbynir yn gyffredinol ganddynt fel cyfeiriad at ynysoedd Groeg. Yn ôl Genesis, Jaffeth a'i ddau frawd oedd sylfaenwyr hiloedd dynolryw (yn ôl gwybodaeth yr Henfyd, sydd ddim yn cynnwys lleoedd fel yr Amerig), a rennir yn dair cangen:

Yn y Beibl, dywedir fod gan Jaffeth saith o feibion:

Ymhelaethir ar y chwedl gan yr hanesydd Rhufeinig-Iddewig Josephus yn ei lyfr Hynafiaethau'r Iddewon lle mae'n honni iddynt ymledu ar draws glannau gogleddol y Môr Canoldir, o Asia Leiaf hyd Cadiz yn Iberia, ac iddynt ymsefydlu yn y tiroedd yma, a fu'n anghyfanedd cyn hynny ac enwi'r cenhedloedd ar ôl eu henw eu hunain. Dilynwyd Josephus gan sawl awdur arall yn yr Oesoedd Canol.

Gomer golygu

Yn achos Gomer ieuodd hynafiaethwyr fel y Cymro Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd, honiadau Josephus wrth hanesion amrywiol am y Cimeriaid, pobl hynafol y cyfeirir atynt yn ymosod ar Ymerodraeth Newydd Assyria ar ddiwedd yr 8g CC, i greu'r traddodiad ffug fod y Cymry - a uniaethwyd â'r Cimeriaid am fod yr enwau'n swnio'n debyg ac am fod Sieffre o Fynwy yn honni bod y Brythoniaid wedi mudo o Asia Leiaf i Ynys Brydain - yn ddisgynyddion i'r Gomer Beiblaidd. Nid oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol nac ieithyddol i gefnogi'r ddamcaniaeth.

"Ieithoedd Jaffetig" golygu

Defnyddiwyd y term "Jaffetig" gan William Jones (1746-1794) a ieithyddwyr cynnar eraill i gyfeirio at yr hyn a adnabyddir heddiw fel yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae'r term "ieithoedd Jaffetig" yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau hynafiaethol yn unig erbyn heddiw.