Jagannatha

(Ailgyfeiriad o Jagannath)

Duw Hindŵaidd yw Jagannatha (Sansgrit: जगन्नाथ jagannātha Orïeg: ଜଗନ୍ନାଥ), sy'n ffurf ar Vishnu-Krishna ac a addolir yn India - ar draws Bengal ac Orissa yn arbennig - ac mewn mannau eraill lle ceir cymunedau Hindŵaidd. Fe'i cysylltir yn neilltuol gyda dinas Puri, yn Orissa, lle dethlir y Jagannatha Puri yn Nheml Jagannatha, man cychwyn y Rath Yatra, gorymdaith gyda cherbyd anferth Jagannatha (tarddiad y gair juggernaut). Mae Teml Jagannath yn un o'r canolfannau mwyaf o'i math a ystyrir gan nifer o Hindwiaid fel un o'r pedair prif deml yn India. Ystyr yr enw Sansgrit jagannatha yw 'Arglwydd (nātha) y Byd' (jagat), un o enwau hynafol Krishna.

Jagannath
ଜଗନ୍ନାଥ
Shree Jagannath Mahaprabhu on his rath(cart).
Devanāgarīजगन्नाथ
Trawslythreniad SansgritJàgannātha
MantraOm Jagannathay Namah (ॐ जगन्नाथाय नमः।)
MountGaruda
Jagannatha (de) gyda'i chwaer Subadra (canol) a'i frawd Balarama (chwith)

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.