Roedd James Connolly (Gwyddeleg: Séamas Ó Conghaile; 5 Mehefin 186812 Mai 1916) yn arweinydd llafur Gwyddelig. Ganed ef yn ardal Cowgate, Caeredin, Yr Alban, i deulu tlawd oedd wedi mewnfudo o Iwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 11 oed, ond er hynny addysgodd ei hun nes dod yn un o feddylwyr amlycaf yr adain chwith yn ei ddydd.

James Connolly
Ganwyd5 Mehefin 1868 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
GalwedigaethEsperantydd, gwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolIrish Socialist Republican Party Edit this on Wikidata
PriodLillie Connolly Edit this on Wikidata
PlantRoddy Connolly, Nora Connolly O'Brien Edit this on Wikidata
llofnod

Yn 1882, yn 14 oed, ymunodd a'r Fyddin Brydeinig, a bu yn y fyddin am 7 mlynedd, yn gwasanaethu yn Iwerddon. Tra'r oedd yno cyfarfu a Lillie Reynolds a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. Gadawodd y ffordd y gwelodd y fyddin yn trin pobl gyffredin Iwerddon Connolly gyda chasineb at y fyddin weddill ei oes.

Bu'n gweithio fel llafurwr yng Nghaeredin a daeth yn weithgar gydag undebau llafur a chyda Phlaid Lafur Annibynnol Keir Hardie. Erbyn 1896 roedd yn Nulyn yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Dulyn; ffurfiodd Connolly y Blaid Weriniaethol Sosialaidd Wyddelig (Irish Socialist Republican Party neu ISRP). Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, lle bu'n weithgar gydag undebau llafur. Dychwelodd i Iwerddon, ac yn 1913 ffurfiodd yr Irish Citizen Army (ICA), byddin lafur arfog. Pwrpas y fyddin ar y cychwyn oedd amddiffyn gweithwyr a streicwyr, ond yn fuan daeth i anelu at greu gweriniaeth sosialaidd rydd yn Iwerddon.

Daeth Connolly i gytundeb ag arweinwyr Brawdoliaeth Weriniaethol Iwerddon oedd hefyd yn ystyried gwrthryfel arfog, a chyfarfu Connolly â Tom Clarke ac â Padraig Pearse. Cytunwyd i weithredu dros wythnos y Pasg, 1916.

Yn ystod Gwrthryfel y Pasg. a ddechreuodd ar 24 Ebrill, 1916, roedd Connolly yn un o'r prif arweinwyr. Clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei goes yn ystod yr ymladd. Wedi'r gwrthryfel dedfrydwyd ef i farwolaeth a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham, yn eistedd mewn cadair am ei fod wedi'i glwyfo'n rhy ddrwg i sefyll. Gadawodd nifer o blant, a daeth un ohonynt, Nora Connolly-O'Brien yn adnabyddus fel awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Cerflun o James Connolly yn Nulyn

Mae cerflun o Connolly yn ninas Dulyn o flaen Liberty Hall, swyddfeydd yr undeb llafur SIPTU. Mae un o ddwy brif gorsaf reilffordd Dulyn wedi ei enwi ar ei ôl.

Llyfryddiaeth golygu

  • Levenson S. James Connolly A Biography. Martin Brian and O'Keeffe Ltd., Llundain, 1973. ISBN 0-85616-130-6.
  • Connolly, James. 1987. Collected Works (Two volumes). Dulyn: New Books.
  • Anderson, W.K. 1994. James Connolly and the Irish Left. Dulyn: Irish Academic Press. ISBN 0-7165-2522-4.
  • Fox, R.M. 1943. The History of the Irish Citizen Army. Dulyn: James Duffy & Co.
  • Fox, R.M. 1946. James Connolly: the forerunner. Tralee: The Kerryman.
  • Greaves, C. Desmond. 1972. The Life and Times of James Connolly. Llundain: Lawrence & Wishart. ISBN 0-85315-234-9.
  • Lynch, David. 2006. Radical Politics in Modern Ireland: A History of the Irish Socialist Republican Party (ISRP) 1896-1904. Dulyn: Irish Academic Press. ISBN 0-7165-3356-1.
  • Kostick, Conor & Collins, Lorcan. 2000 "The Easter Rising" Dulyn: O'Brien Press ISBN .0-86278-638-X
  • Nevin, Donal. 2005. James Connolly: A Full Life. Dulyn: Gill & MacMillan. ISBN 0-7171-3911-5.
  • Ó Cathasaigh, Aindrias. 1996. An Modh Conghaileach: Cuid sóisialachais Shéamais Uí Chonghaile. Dulyn: Coiscéim.

Gweler hefyd golygu