Carchar Kilmainham
Cyn-garchar Prydeinig yw Kilmainham Gaol (Gwyddeleg: Príosún Chill Mhaighneann) a ddefnyddiwyd i ddal nifer o chwyldroadwyr Cenedlaetholgar Gwrthryfel y Pasg (1916) yn garcharorion a'u dienyddio. Mae bellach yn amgueddfa ac ar agor i'r cyhoedd. Adnewyddwyd yr hen adeilad yn y 1950au.
Math | defunct prison, prison museum |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1796, 1960s |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Kilmainham |
Sir | Swydd Dulyn, Dulyn, Kilmainham |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3417°N 6.3094°W |
Statws treftadaeth | cofadail cenedlaethol Iwerddon |
Manylion | |
Hanes
golyguMae hanes y carchar yn rhychwantu cyfnod pwysig yn hanes Iwerddon. Fe'i codwyd adeg y Ddeddf Uno, a'i gau yn dilyn sefydlu Saorstáit Éireann (Gwladwriaeth Rydd Iwerddon). Pan godwyd yr adeilad yn gyntaf yn 1796, fe'i galwyd "an priosún nua" ('y carchar newydd') i wahaniaethu rhyngddo a'r hen garchar tua dau gan metr i ffwrdd. Yna fe'i galwyd yn "Garchar Dinas Dulyn". Arferid crogi pobl o flaen y carchar yn dyddiau cynnar, ond ychydig iawn a grogwyd - yn gyhoeddus neu fel arall - o'r 1820au ymlaen.[1] Adeiladwyd 'cell grogi' yma yn 1819, ar y llawr cyntaf, rhwng yr adain ddwyreiniol a'r adain orllewinol.[1]
Cedwid i fyny at bump o bobl ymhob cell, heb wahanu o ran rhyw nag oedran: bu i blant mor ifanc â saith rannu cell gyda merched a dynion. Byddai ganddynt un gannwyll, a rhaid i honno bara am bythefnos. Prin fod iddynt gynhesrwydd na golau o gwbwl. Roedd pob cell ryw 28 metr sgwâr.[1] Yn aml y gwelid yr oedolion yn cael eu dedfrydu i'w halltudio i Awstralia.
Cyn-garcharorion
golygu- Henry Joy McCracken, 1796
- Oliver Bond, 1798 (bu farw yma)
- James Bartholomew Blackwell, 1799
- James Napper Tandy, 1799
- Robert Emmet, 1803
- Anne Devlin, 1803
- Thomas Russell, 1803
- Michael Dwyer, 1803
- William Smith O'Brien, 1848
- Thomas Francis Meagher, 1848
- Diarmaid Ó Donnabháin Rosa, 1867
- John O'Connor Power, 1868
- J. E. Kenny, 1881
- Charles Stewart Parnell, 1881
- William O'Brien, 1881
- James Joseph O'Kelly, 1881
- John Dillon, 1882
- Willie Redmond, 1882
- Joe Brady (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
- Daniel Curley (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
- Tim Kelly (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
- Thomas Caffrey (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
- Michael Fagan (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
- Michael Davitt
- Pádraig Mac Piarais (Patrick Pearse), 1916
- Willie Pearse (brawd iau Patrick Pearse), 1916
- Séamus Ó Conghaile (James Connolly) (saethwyd yn farw), 1916
- Conn Colbert, 1916
- Constance Markievicz, 1916
- Éamon de Valera, 1916
- Paul Galligan, 1916
- John MacBride, 1916
- Seosamh Pluincéad (Joseph Plunkett), 1916
- Michael O'Hanrahan, 1916
- Edward Daly, 1916
- Grace Gifford (gwraig Joseph Plunkett), 1922
- Ernie O'Malley
- Peadar O'Donnell
- Frank McBreen
- Thomas MacDonagh, 1916
- Tom Clarke, 1916
- Mairead De Lappe (cyfnod Rhyfel Cartref Iwerddon; mam y darlledwr Proinsias Mac Aonghusa)
- Madeleine Ffrench-Mullen, 1916
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Kilmainham Jail, Dublin". Tourist-information-dublin.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-14. Cyrchwyd 2013-06-28.