Plaid Gomiwnyddol Iwerddon
Plaid gomiwnyddol Wyddelig yw Plaid Gomiwnyddol Iwerddon (Gwyddeleg: Páirtí Cumannach na hÉireann, Saesneg: The Communist Party of Ireland, CPI), a sefydlwyd yn 1933. Plaid fechan ydyw, gyda'i phencadlys yn Nulyn. Mae'n weithgar yn y de a'r gogledd fel ei gilydd. Mae'n cyhoeddi dau bapur newydd, un yn Nulyn a'r llall ym Melffast.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | comiwnyddiaeth, Marcsiaeth–Leniniaeth, sosialaeth, Irish republicanism, Euroscepticism |
Dechrau/Sefydlu | 3 Mehefin 1933, 1970 |
Rhagflaenwyd gan | Irish Socialist Republican Party |
Rhagflaenydd | Communist Party of Northern Ireland, Irish Workers' Group, Revolutionary Workers' Groups |
Pencadlys | Dulyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Gwefan | https://communistparty.ie |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dydy'r blaid erioed wedi cymryd rhan amlwg mewn etholiadau, ond er hynny mae wedi bod yn ddylanwadol ym mudiad yr undebau llafur Gwyddelig a bu'n weithgar yng Nghymdeithas Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Civil Rights Association). Mae gan y CPI siop lyfrau adnabyddus yn Nulyn, sef Connolly Books ac fe'i cefnogir gan fudiad ieuenctid y Connolly Youth Movement, ill dau wedi'u henwi ar ôl y sosialydd Gwyddelig James Connolly.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2020-02-18 yn y Peiriant Wayback