James Francis Edward Stuart

ymhonwy orsedd Lloegr, yr Alban ac Iwerddon (1688-1766)

Hawlydd gorsedd Lloegr a'r Alban oedd James Francis Edward Stuart (10 Mehefin 1688 - 1 Ionawr 1766). Roedd yn fab i Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban, a hawliai ef ei hun yr orsedd fel Iago III / VIII.

James Francis Edward Stuart
Ganwyd10 Mehefin 1688 Edit this on Wikidata
Palas Sant Iago Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd15 Hydref 1688 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1766 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethcogiwr Edit this on Wikidata
SwyddJacobite pretender Edit this on Wikidata
TadIago II & VII Edit this on Wikidata
MamMaria o Modena Edit this on Wikidata
PriodMaria Clementina Sobieska Edit this on Wikidata
PlantCharles Edward Stuart, Henry Benedict Stuart Edit this on Wikidata
Llinachy Stiwartiaid Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

 
Tywysog James Francis Edward Stuart

Diorseddwyd ei dad yn 1688, yn fuan ar ôl genedigaeth y mab. Yn ei le, daeth ei ferch, Mari II a'i gŵr Wiliam III (Wiliam o Orange) i'r orsedd. Wedi ei marwolaeth hwy, daeth Anne, un arall o ferched Iago II/ VII, yn frenhines. Magwyd James yn Ffrainc, lle roedd Louis XIV, brenin Ffrainc yn ei gydnabod fel gwir frenin yr Alban a Lloegr.

Bu'r frenhines Anne farw yn 1714, a daeth Etholwr Hannover yn frenin fel Siôr I. Erbyn hyn roedd deddf Act of Settlement 1701 yn mynny fod rhaid i'w holynydd fod yn Brotestant. Gan fod James Stuart yn Gatholig, caewyd ef allan o'r olyniaeth.

 
Arfau Iago

Roedd cefnogaeth i deulu'r Stiwartiaid yn parhau yn gryf yn Iwerddon, Ucheldiroedd yr Alban a rhannau o Ogledd Lloegr. Gelwid pleidwyr y Stiwartiaid yn Jacobitiaid, o'r ffurf Ladin o "Iago". Gwnaed ymgais i roi James ar yr orsedd yn 1715, ond methodd yr ymdrech wedi i'r fyddin Jacobitaidd fethu gorchfygu byddin y llywodraeth ym Mrwydr Sheriffmuir; roedd gwrthryfel byrhoedlog yn 1719 yn aflwyddiannus hefyd. Bu ymgyrch arall yn 1745, pan laniodd mab James Stuart, Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie), yn Ucheldiroedd yr Alban a chodi byddin i geisio rhoi ei dad ar yr orsedd. Cafodd ei ddilynwyr nifer o lwyddiannau, ond gorchfygwyd hwy ym Mrwydr Culloden.

Cyfeiriadau golygu