Palas Sant Iago
palas brenhinol yn Llundian
Lleolir Palas Sant Iago yn Ninas Westminster, Llundain Fwyaf. Yn draddodiadol dyma gartref swyddogol brenin neu frenhines y Deyrnas Unedig, ond ers oes Victoria mae pob un ohonynt wedi byw ym Mhalas Buckingham. Saif ar safle hen ysbyty ar gyfer merched gwahanglwyfus, a sefydlwyd cyn 1100. Adeiladwyd y porthdy ar gyfer Harri VIII rhwng 1531 a thua 1540. Gwnaeth Inigo Jones nifer o newidiadau i'r palas, ond dim ond Capel y Frenhines sy'n dal i sefyll. Mae Clarence House, cartref swyddogol Tywysog presennol Cymru, yn rhan o gyfadeilad y palas.
Math | palas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Iago fab Sebedeus |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Agoriad swyddogol | 1536 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5047°N 0.1378°W |
Cod OS | TQ2934980046 |
Arddull pensaernïol | Brick Gothic |
Perchnogaeth | Harri VIII |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |