James Mackenzie Maclean
Roedd James Mackenzie Maclean (13 Awst 1835 – 22 Ebrill 1906) yn newyddiadurwr, yn wleidydd Ceidwadol ac Unoliaethol ac yn Aelod Seneddol Caerdydd
James Mackenzie Maclean | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1835 |
Bu farw | 22 Ebrill 1906 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd James Mackenzie Maclean yn Liberton un o faestrefi Caeredin yn fab i Alexander Maclean a Mary (né Baigrie) ei wraig. Roedd Alexandrer McClean yn berchen ar ystâd fawr yn Jamaica[1]
Cafodd ei addysgu am gyfnod yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt ond ymadawodd ar ôl flwyddyn heb dderbyn gradd.
Priododd ei wraig gyntaf, Anna Maria Whitehead, merch Phillip Whitehead ym 1865, bu hi farw ym 1897; priododd ei ail wraig Mrs. Sara Kennedy (né Hale) ym 1900, roedd hi'n actores.[2]
Gyrfa
golyguAr ôl ymadael a'r brifysgol ym 1854 aeth Maclean i weithio fel athro mewn ysgol ramadeg yn Newcastle upon Tyne ond ymadawodd a'r ysgol ar ôl ychydig o fisoedd gan gael ei benodi yn ohebydd ar bapur wythnosol y Newcastle Chronicle, gan gael ei benodi yn olygydd y papur ym 1855. Ym 1858 symudodd i bapur dyddiol y Manchester Guardian fel prif awdur ei cholofnau arweiniol. Ym 1859 aeth allan i'r India i fyw ar ôl derbyn swydd olygydd The Bombay Gazette ond ymddiswyddodd ym mhen blwyddyn gan sefydlu ei bapur ei hun The Bombay Saturday Review. Ym 1863 fe brynodd ei hen bapur, y Bombay Gazette. Gwerthodd ei bapurau newyddion yn yr India ym 1879 gan ddychwelyd i fyw yng ngwledydd Prydain. Rhwng 1882 a 1899 roedd yn un o gyd berchenogion newyddiadur Caerdydd y Western Mail.[1]
Gyrfa Wleidyddol
golyguTra yn yr India fe fu Maclean yn aelod o Gyngor Tref Bombay gan wasanaethu am gyfnod fel ei Gadeirydd.
Ym 1880 safodd yn aflwyddiannus ar ran yr Unoliaethwyr yn etholaeth Bwrdeistref Elgin. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Oldham yn etholiad 1885 cyn cael ei drechu gan ymgeisydd Rhyddfrydol ym 1892. Dychwelodd i Dŷ'r Cyffredin fel aelod Ceidwadol Caerdydd ym 1895, ond wedi anghydfod rhyngddo a'i blaid ar bolisïau ymerodrol ni chafodd ei wahodd i amddiffyn y sedd ar eu rhan yn etholiad 1900.[3]
Marwolaeth
golyguBu farw o strôc yn Bournemouth ym 1906 yn 71 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent Old Chiswick, Llundain
Cyhoeddiadau
golygu- A Guide to Bombay - 1879
- Recollections of Westminster and India -1901
- Free trade with India: India's place in an imperial federation - 1904
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Edward James Reed |
Aelod Seneddol Caerdydd 1895 – 1900 |
Olynydd: Syr Edward James Reed |