James Spinther James
Hanesydd, llenor ac emynydd o Gymru oedd James Spinther James (Ebrill 1837 – 5 Tachwedd 1914), y cyfeirir ato gan amlaf fel Spinther. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel "hanesydd y Bedyddwyr Cymreig".[1]
James Spinther James | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1837 Tal-y-bont |
Bu farw | 5 Tachwedd 1914 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn frodor o blwyf Tal-y-bont, Ceredigion, lle y'i ganed yn 1837. Bu'n fugail ac yn borthmon yn ei sir enedigol cyn symud i Aberdâr, Morgannwg yn 1854 i weithio yn y pyllau glo. Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Bedyddwyr yn 1861 a daeth yn adnabyddus fel pregethwr ac fel areithydd ar bynciau gwleidyddol. Bu farw yn 1914.[1]
Ei brif waith fel hanesydd a llafur mawr ei oes yw'r pedair cyfrol ar hanes y Bedyddwyr yng Nghymru a gyhoeddwyd rhwng 1892 a 1907. Fe'i gwerthfawrogir am ei iaith a mynegiant yn ogystal â'i manylder hanesyddol. Cyfansoddodd emynau yn ogystal â chyfrannodd nifer o erthyglau i'r cylchgronau Cymraeg.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru (4 cyfrol; 1892-1907)