Cylchgrawn

cyhoeddiad a ddosberthir fel arfer yn rheolaidd
(Ailgyfeiriad o Cylchgronau)

Cyhoeddiad sy'n dod allan fel arfer yn rheolaidd (ynwythnosol neu'n fisol), ac sy'n cynnwys ystod o bynciau gan fwy nag un awdur yw cylchgrawn. Mae'r gost o'i gynhyrchu fek arfer yn dod o bris y gwerthiant a'r hysbysebion, neu gan nawdd cyhoeddus.[1]

Cylchgrawn
Enghraifft o'r canlynoltype of publication, type of mass media Edit this on Wikidata
Mathcyfnodolyn, cyfrwng cyfathrebu, y cyfryngau torfol, print-native publication Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmagazine cover Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y cylchgrawn materion cyfoes Barn (Mehefin 2007)

Yr cylchgrawn cyntaf i'w argraffu oedd y Erbauliche Monaths Unterredungen, a oedd yn ymwneud â llenyddiaeth ac athroniaeth ac a werthwyd yn yr Almaen yn 1663.[2] Y cylchgrawn cyntaf a oedd yn ymwneud â diddordebau cyffredinol oedd The Gentleman's Magazine, a argraffwyd yn Llundain yn 1731 ac a olygwyd gan Edward Cave, dan y ffugenw "Sylvanus Urban", ac ef a fathodd y term Saesneg magazine.[3]

Cylchgronau yng Nghymru

golygu

Y cylchgrawn hynaf i gael ei gyhoeddi, sy'n para i gael ei gyhoeddi heddiw, (a hynny mewn unrhyw iaith yn y byd) ydy'r Gwyliedydd sef cylchgrawn y mudiad Wesleaidd.[4]

Mae cylchgronau o bob math wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru ers diwedd y 18g. Un o'r cynharaf oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth, chwarterolyn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794. Cofnodir y gair "cylchgrawn" ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794).

Roedd cylchronau Cymraeg y 19g yn tueddu i fod naill ai'n ymwneud â llenyddiaeth a hynafiaethau Cymru neu'n gyhoeddiadau crefyddol enwadol. Enghraifft dda o'r cyntaf yw Y Greal. Ond roedd hyd yn oed y cylchgronau enwadol yn cynnwys pytiau o newyddion a oedd bron yr unig ffynhonnell am ddigwyddiau'r dydd i'r werin bobl am gyfnod.

Bu rhaid aros yn hir i gael deunydd tebyg i'r cylchgronau amrywiol a gyhoeddid mewn gwledydd eraill yn y Gymraeg. Yn Lloegr roedd cylchgronau dychanol fel Punch yn hynod poblogaidd, er enghraifft, ac er y cafwyd fersiwn Cymraeg ni pharhaodd am hir.

I gryn raddau, llenyddiaeth sy'n dominyddu hanes y cylchgrawn yn yr 20g yng Nghymru. Gellid nodi Y Llenor a Taliesin. Digideiddiwyd llawer o gylchgronau Cymraeg a Chymreig gan y Llyfrgell Genedlaethol mewn prosiect a elwir yn Cylchgronau Cymru Ar-lein.

Cylchgronau Cymraeg yn 2011

golygu
Gwerthiant fesul rhifyn y cylchgronau sy'n derbyn grant[5]
Cylchgrawn Lleiafswm Gwerthiant Rhifynnau mewn blwyddyn Grant Blynyddol (£) Cyfanswm y copiau
a werthir mewn blwyddyn
Grant y copi a brynnir (£)
Y Cymro 2,500 52 £18,000 130,000 £0.07
Barn 1,000 10 £80,000 10,000 £8.00
Golwg 2,500 50 £73,000 125,000 £0.60
Barddas 500 4 £24,000 2,000 £12.00
Cristion 1,000 6 £4,8000 6,000 £0.80
Gair y Dydd 500 4 £2,400 2,000 £1.20
Taliesin 500 3 £28,500 1,500 £19.00

2012 - 2016

golygu
  • Barddas £24,000
  • Barn £80,000
  • CIP £26,000
  • Cristion £4,800
  • Fferm a Thyddyn £2,000
  • Gair y Dydd £2,400
  • Golwg £73,000
  • Lingo Newydd £18,000
  • Llafar Gwlad £7,000
  • Taliesin £28,500
  • WCW £36,000
  • Y Cymro £18,000
  • Y Neuadd £6,000
  • Y Selar £12,000
  • Y Traethodydd £8,000
  • Y Wawr £10,000

2016-2021

golygu

Yn 2016 dosbarthwyd tua 29 o gylchgronau o Gymru yn Gymraeg ac yn Saesneg (am Gymru) i'r siopau trwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau. Mae rhain yn cynnwys: Barddas, Barn, Bore Da, Cambria, Cip, Cristion, Cylchgrawn Efengylaidd, Cymru a'r Môr, Fferm a Thyddyn, Gair y Dydd, Iaw, Lingo Newydd, Lol, Llafar Gwlad, Natur Cymru / The Nature of Wales, Y Naturiaethwr, New Welsh Reader (NWR), Ninnau, Planet, Poetry Wales, WCW, Welsh Country, Welsh Football, Welsh History Review, Y Casglwr, Y Faner Newydd, Y Gwyliedydd, Y Traethodydd, Y Wawr a'r Enfys.[6]

Mae papurau wythnosol a gyhoeddir gan yr enwadau crefyddol hefyd i'w cael a darperir gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg Cymru Fyw gan y BBC a Golwg 360 gan gwmni Golwg Newydd Cyf.

Daeth Taliesin i ben yng ngwanwyn 2016 a disgwylir rhifyn cyntaf cylchgrawn llenyddol newydd o'r enw O'r Pedwar Gwynt ym mis Awst 2016 dan olygyddiaeth Sioned Puw Rowlands ac Owen Martell. Bydd comic newydd i blant hŷn hefyd yn ymddangos ym mis Mai 2016 wedi ei greu gan y cartwnydd Huw Aaron ac yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

Yn 2016 cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau Cymraeg y bydd y cylchgronau canlynol yn derbyn nawdd am y cyfnod 2016-1, tra pery nawdd Llwodraeth Cymru:

  • Barddas £24,000
  • Barn £80,000
  • Cristion £4,800
  • Golwg £73,000
  • Lingo £18,000
  • Y Cymro £18,000
  • Y Wawr £10,000
  • CIP £27,500
  • Mellten £14,000
  • Fferm a Thyddyn £1,500
  • Llafar Gwlad £7,000
  • Melin £5,000
  • WCW £30,000
  • Y Selar £10,000
  • Y Traethodydd £6,000
Cyfanswm: £391,446

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Magazine Publisher.com's Magazine Startup Guide". Magazine Publisher. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-25. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2012.
  2. "History of magazines". Magazine Designing. 26 Mawrth 2013. Cyrchwyd 10 Hydref 2013.
  3. OED, s.v. "Magazine", and "Magazine - A Dictionary of the English Language - Samuel Johnson - 1755". johnsonsdictionaryonline.com.
  4. Y Gwyliedydd ar "Google books"
  5. Golwg; Cyfrol 24, Rhif 13, 24 Tachwedd 2011.
  6. Cyhoeddi Grantiau i Gylchgronau Cymraeg ar gyfer 2016–2019 - 14 Medi 2015. Archifwyd 2021-03-08 yn y Peiriant Wayback adalwyd 01 Mawrth 2016

Dolenni allanol

golygu
Chwiliwch am cylchgrawn
yn Wiciadur.