Jane Aaron
Mae Jane Rhiannon Aaron (ganwyd 26 Medi 1951) yn addysgwr Cymreig, ymchwilydd llenyddol ac awdur. Hyd at ei hymddeoliad ym Medi 2011, roedd hi'n Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg; yna daeth yn aelod cyswllt o'r Ganolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru[1] Mae Aaron yn adnabyddus am ei hymchwil i a chyhoeddiadau ar lenyddiaeth Gymraeg ac ar ysgrifeniadau menywod Cymru.[2]
Jane Aaron | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1951 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Tad | Richard Ithamar Aaron |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Seisnig |
Bywgraffiad
golyguGaned Jane Aaron yn Aberystwyth yn ferch i'r athronydd Richard Ithamar Aaron a'i wraig Annie Rhiannon Morgan. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, (1970-1973). Yna astudiodd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, lle enillodd PhD ym 1980.[3]
Yn 1993, fe'i penodwyd yn Uwch-ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Daeth yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd, ym 1999 lle'r arhosodd tan ei hymddeoliad yn 2011.
Ers y 1990au cynnar mae Aaron wedi cyhoeddi nifer o draethodau a llyfrau ac wedi golygu gwaith ar gyfer gwasg Honno sy'n arbenigo mewn ysgrifennu gan fenywod Cymru. Ar gyfer Honno, ym 1999 bu'n golygu blodeugerdd o straeon byrion sy'n dwyn y teitl A View Across the Valley: Short Stories from Women in Wales 1850–1950. Ym 1988 cyhoeddodd Pur Fel y Dur: Y Gymraes yn Llen Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan ennill gwobr Ellis Griffith. Yn 2009 enillodd Wobr Roland Mathias am y gyfrol Nineteenth-century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (2007).
Derbyn i'r Orsedd
golyguDerbyniwyd Jane i'r Orsedd yn 2024 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 a gynhaliwyd ym Mhontypridd. Cafodd ei derbyn yn y Wisg Werdd.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Aaron, Jane (1991). A Double Singleness: Gender and the Writings of Charles and Mary Lamb. Clarendon Press. ISBN 978-0-19-812890-8.
- Aaron, Jane (1998). Pur Fel y Dur: Y Gymraes yn Llen Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. University of Wales Press. ISBN 978-0-70-8314814.
- Aaron, Jane (1999). A View Across the Valley: Short Stories by Women from Wales, C.1850-1950. Honno. ISBN 978-1-870206-35-8.
- Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2287-1.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jane Aaron Joins Centre[dolen farw] adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ World Cat Identities adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ Prabook Jane Rhiannon Aaron Archifwyd 2016-05-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ "Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 20 Mai 2024.